Mae Eglwys Llangiwg yn hen eglwys ganoloesol a gafodd ei sefydlu yn y chweched ganrif ger Pontardawe. Lleolir yr eglwys ar ben bryn mewn ardal wledig ddiarffordd ac fe’i cofrestrwyd fel heneb Gradd II. Mae’r eglwys yn un o'r adeiladau hynaf yng Nghastell-nedd Port Talbot ac ar un adeg yr eglwys hon oedd mam-eglwys y plwyf. Mae'r adeilad yn cynnwys nodweddion ac arteffactau Cristnogol cynnar yn ogystal â nodweddion Normanaidd, Tuduraidd, Sioraidd a Fictoraidd. Mae 'ffynnon sanctaidd' i’w gweld yn y fynwent. Mae elusen leol sef Ymddiriedolaeth Llangiwg yn gofalu am yr eglwys. Mae’r eglwys wedi cael ei haddasu yn ofalus a sensitif fel lleoliad treftadaeth a chymunedol ac yn canolbwyntio ar yr iaith Gymraeg, hanes a’r diwylliant, y celfyddydau, lles a natur.
Bydd sgyrsiau’n cael eu cynnal yn yr eglwys ar ddau ddydd Sadwrn ym mis Medi. Mae'r sgwrs gyntaf sef ‘Tudor Artefacts’ yn cael ei chynnal ar 5 Medi - gydag arteffactau yn cael eu harddangos ynghyd ag esboniad ohonyn nhw gan John Richards sy’n siaradwr ar bynciau hanesyddol. Mae'r ail sgwrs sef ‘The Conservation of St.Ciwc’s’ yn cael ei chynnal ar 19 Medi - mae’r sgwrs hon yn cael ei thraddodi gan John H Williams, un o ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Llangiwg. Bydd y sgwrs yn edrych yn ôl ar ymdrechion y gymuned i warchod y safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - a hynny dros gyfnod o 20 mlynedd. Bydd lluniaeth a theithiau tywys yn dilyn y ddwy sgwrs.
Bydd yr eglwys ar agor ar gyfer teithiau tywys rhwng 11am a 4pm ar ddydd Sadwrn,12 Medi, ac ar ddydd Sadwrn, 26 Medi. Bydd y ddwy sgwrs yn cael eu cynnal rhwng 11am ac 1pm bob dydd Sadwrn..
Cyfeiriad: Eglwys Sant Ciwg, Llangiwg, oddi ar Heol Gwrhyd, ger Rhyd-y-fro, Pontardawe, Abertawe SA8 4TP. (Mae'r cod post hwn yn arwain at y fferm agosaf). Cyf Grid: SN72380 05590
Gallwch gyrraedd y lle mewn car, ar feic neu ar droed. Y llwybr mwyaf hygyrch yw trwy Ryd-y-fro ar yr A474 o Bontardawe. Wrth i chi adael Rhyd-y-fro, trowch i’r dde cyn tafarn y Travellers Well ar lwybr sengl Ffordd Gwrhyd a pharhewch i fyny’r allt nes i chi ddod at arwyddbost i’r dde ar gyfer yr eglwys. Parhewch ar hyd y ffordd hon nes cyrraedd y maes parcio gyferbyn â’r eglwys, lle mae llefydd parcio ar gyfer nifer o geir (gwerthfawrogir rhannu ceir). Mae llethr bychan i fyny at fynedfa’r giât, llwybr glaswelltog i’r eglwys, stepen fas i mewn i’r cyntedd a stepen â ramp i mewn i’r eglwys.
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
11:00 - 16:00
|
| Sad 26 Med 2026 |
11:00 - 16:00
|