Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Eglwys â hanes sy'n deillio yn ôl i'r Oesoedd Canol cynnar sy’n sefyll yn ei dyffryn tawel ei hun. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 13eg ganrif gydag ychwanegiadau drwy'r canrifoedd dilynol a oedd yn cynnwys dwy eil yn arddull Dyffryn Clwyd, bedyddfaen o'r 14eg ganrif, festri a ddyluniwyd gan John Douglas a’r porth a’r Leyland Arms gerllaw wedi eu hadnewyddu gan Clough Williams Ellis yn yr 20fed ganrif. Mae'r cylch o amgylch y Llan yn cynnwys sawl heneb anarferol a bedd 'Coch Bach y Bala’. Mae yna hefyd gerfiadau pren anarferol sy'n dyddio o'r 13eg a'r 14eg ganrif a oedd ar un adeg yn addurno'r Sgrin Grog goll.

Mae Ffair Grefftau yn rhan o’r penwythnos Drysau Agored, ac yn cynnwys gwaith crefftwyr lleol. Fe’i chynhelir yn yr eglwys a'r fynwent ddydd Sadwrn 19 Medi, gan ddechrau am 11.00am a pharhau tan 3.00pm. Bydd lluniaeth gan gynnwys cacen ar gael. Bydd copïau wedi'u llofnodi o'r llyfr hanes lleol poblogaidd 'St Elidan's Church and the Village of Llanelidan' gan Andrew Sumner, hefyd ar werth.

Cod post: LL15 2PT What3Words: clasping.numerals.gestures

Ar fws: Gwasanaeth T8 Corwen i Gaer drwy Rhuthun a'r Wyddgrug. Gwasanaeth bob awr ar hyd yr A494 i'r ddau gyfeiriad gan 'ollwng' yn unig wrth y troad i Lanelidan. Bydd bysiau ond yn codi teithwyr yn arhosfan Bryn Grug Llanelidan ar yr A494, sydd tua milltir o gerdded i'r eglwys ac yn ôl, neu ym Mhandy'r Capel sydd 1.5 milltir i'r de o'r pentref ar yr A494. Mewn car mae mynediad i'r eglwys ar hyd lonydd gwledig cul gyda mannau pasio. O Ruthun: cymerwch yr A494 i'r de tuag at Gorwen am 4.9 milltir (709km) a chymerwch y troad i'r chwith, lle mae arwydd am Lanelidan, ac yna ewch yn syth i'r dde. Ewch ymlaen am ¾ milltir (1.3km) ac wrth y groesffordd trowch i'r chwith. Mae'r Eglwys 300 llath arall i ffwrdd ac mae'n hawdd ei gweld o'ch blaen. O Wrecsam: cymerwch yr A525 tuag at Ruthun. Trowch i'r chwith ar y B5429 wrth groesffordd Coleg Llysfasi gan barhau ar y ffordd B hon am 3 milltir. Mae'r eglwys i'w gweld o'r ffordd.

Mae mynediad i bobl anabl yn bosibl gyda ramp cludadwy ar gael. Bydd y Leyland Arms, ger yr eglwys ar agor. Efallai y bydd gêm griced hefyd ar y cae criced cyfagos.


Prisiau

Am Ddim
Categori Price

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Med 2026
11:00 - 15:00