Mae Eglwys Sant Illtud o arwyddocâd hanesyddol ac ysbrydol ac yn cynrychioli cysylltiad parhaol o addoli a thystiolaeth Gristnogol sy'n ymestyn yn ôl dros 1500 o flynyddoedd. Cafodd Eglwys Sant Illtud ei sefydlu tua 500 OC gan Sant Illtud. Mae'r Eglwys yn un o'r lleoliadau Cristnogol hynaf ym Mhrydain ac, yn ôl y Guinness Book of Records dyma'r 'ganolfan ddysgu' gynharaf ym Mhrydain, lle’r addysgwyd nifer helaeth o seintiau Celtaidd adnabyddus. Mae'r Eglwys yn adeilad rhestredig Gradd I sydd yn ôl Cadw yn safle "... o ddiddordeb cenedlaethol eithriadol". Pan ymwelodd John Wesley â’r safle hon yn 1777, disgrifiodd hi fel "... abundantly the most beautiful as well as the most spacious church in Wales". Mae'r Eglwys yn cynnwys tri adeilad, yr Eglwys Ddwyreiniol, yr Eglwys Orllewinol a Chapel Galilea sydd wedi'i adfer. Yma, mae casgliad arwyddocaol iawn o groesau Celtaidd, sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod rhwng yr 8fed a'r 10fed ganrif.
Bellach, mae’r croesau hyn wedi’u harddangos o fewn yr eglwys.
Mae Eglwys Sant Illtud ar agor bob dydd rhwng tua 8.00 a.m. a 6.00 p.m. Mae gwasanaethau bob dydd Sul, dydd Mercher a dydd Gwener. Yn ystod mis Medi bwriedir cynnal sesiynau i groesawu ymwelwyr lle bydd cyfle i fwynhau taith o amgylch yr Eglwys ar ôl y gwasanaeth. Bydd y ddarpariaeth hon ar gael ar ddydd Mercher rhwng tua 11.00 a.m. hyd at tua 3.00 p.m. Bydd lluniaeth yn dilyn ar ddiwedd y sesiwn hon. Bydd y ddarpariaeth hefyd ar gael ar ôl y gwasanaeth ar ddydd Gwener o tua 1.00p.m. hyd at 3.00 p.m. pan fydd cinio o gawl yn cael ei weini
Eglwys Sant Illtud, Lôn yr Eglwys, Llanilltud Fawr CF61 1SH
O'r orsaf drenau a bysiau yn Llanilltud Fawr, cerddwch tuag at yr ardal siopa gan gerdded ymlaen drwy'r ardal siopa cyn troi i'r dde i lawr Stryd y Dwyrain ac yna rownd y gornel i hen Sgwâr y Dref lle byddwch yn gweld yr Eglwys. Mae’n cymryd tua phum munud i gyrraedd yr eglwys. Mae parcio a mynediad i gerbydau yn gyfyngedig iawn o amgylch yr Eglwys. Ond, mae llefydd parcio ar gael ym maes parcio Neuadd y Dref gerllaw. Dewis arall fyddai parcio yn yr orsaf neu yn yr ardal siopa sydd o fewn pellter cerdded hawdd.
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 05 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Sul 06 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Llun 07 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Maw 08 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Mer 09 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Iau 10 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Gwen 11 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Sad 12 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Sul 13 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Llun 14 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Maw 15 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Mer 16 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Iau 17 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Gwen 18 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Sad 19 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Llun 21 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Maw 22 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Mer 23 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Iau 24 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|
| Gwen 25 Med 2026 |
08:00 - 18:00
|