Drysau Agored - Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel Rhos y Corn
Mae'r eglwys restredig Gradd 2 hon yn un o'r eglwysi hynaf yn Esgobaeth Tyddewi. Adeiladwyd rhan hynaf yr eglwys yn y 13eg ganrif. Mae'r eglwys wedi'i hamgylchynu gan ei mynwent a Neuadd yr Eglwys gyfagos sydd newydd ei hadnewyddu. Yng nghae’r eglwys mae drysfa weddïo, lle mae ymwelwyr yn mwynhau mynd.
Bydd yr eglwys ar agor i ymwelwyr fel arfer bob dydd.
Hefyd dau ddigwyddiad am ddim -
Dydd Sadwrn 12 Medi. 10am - 4pm.
Dewch i gwrdd â rhai o'r bobl leol sy'n gofalu am dreftadaeth a dyfodol yr eglwys hon.
Teithiau, straeon.
Te a chacen ar gael yn y neuadd.
Dydd Sadwrn 19 Medi. 10am - 4pm.
Dysgwch am dreftadaeth a hanes yr eglwys drwy wybodaeth am y fynwent.
Darganfyddwch a oes gennych berthnasau wedi'u claddu yn y fynwent.
Adroddwch straeon eich teulu am yr eglwys a'r ardal.
Lluniaeth ar gael.
Cyfeiriad - Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel Rhos y Corn, Gwernogle, Caerfyrddin, SA32 7RP.
What3Words|: snoring.unloading.miracle
Cyfarwyddiadau - Dilynwch y B4310 trwy bentref Brechfa a chymerwch y ffordd sy’n fforchio i’r chwith sydd ag arwydd Gwernogle ac arwydd brown i'r eglwys. Cyn Gwernogle cymerwch y troad i'r dde wrth y gyffordd, lle mae arwydd brown am yr eglwys, a pharhewch i fyny'r mynydd.
What3Words: gain, agent, acids.
Ychydig o lefydd parcio wrth yr eglwys ond parcio ychwanegol ar gael ar gyfer digwyddiadau mawr, mynediad gwastad o borth y fynwent i'r eglwys ac at ris y gangell. Mynediad gwastad i neuadd yr eglwys; un gris i gyrraedd y toiledau yng nghefn y neuadd. Llwybr glaswellt drwy gae ar lethr i lawr i gae’r ddrysfa.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Llun 14 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Maw 15 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Mer 16 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Iau 17 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Gwen 18 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Sad 19 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Llun 21 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Maw 22 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Mer 23 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Iau 24 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Gwen 25 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Sad 26 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Sul 27 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Llun 28 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Maw 29 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|
| Mer 30 Med 2026 |
11:00 - 20:00
|