Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Y gred yw mai Eglwys Sant Trillo yw eglwys hynaf gogledd Cymru. Yn wreiddiol, hwn oedd capel preifat Ednyfed Fychan, a oedd yn byw yn Llys Euryn gerllaw. Daeth yn eglwys y plwyf pan, yn ôl y sôn, disgynnodd hen eglwys y plwyf i'r môr yn yr 8fed neu'r 9fed ganrif. Mae rhannau o'r strwythur presennol yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif.

Mae dros 2,500 o feddau ym mynwent eglwys Sant Trillo, ac mae llawer o’r bobl a oedd yn ddylanwadol iawn yn natblygiad Bae Colwyn wedi’u claddu yno.

Enw’r penwythnos Drysau Agored eleni yw Seasons of Love. Bydd arddangosfeydd i ddangos hanes yr eglwys a'r tymhorau litwrgïaidd. Bydd teithiau tywys o gwmpas beddau difyrraf
y fynwent yn cael eu trefnu ar gyfer y dydd Sadwrn a'r dydd Sul.

Eglwys Sant Trillo, Ffordd Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos LL28 4YS

Mae'r eglwys ar lwybr bws rhif 12 – Llandudno i'r Rhyl. Enw’r arhosfan yw Dinerth Road.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Gwen 18 Med 2026
10:00 - 17:00
Sad 19 Med 2026
10:00 - 17:00
Sul 20 Med 2026
10:00 - 17:00