Drysau Agored - Eglwys y Santes Fair a Christ, Llanfairfechan
Mae hwn yn Adeilad Rhestredig Gradd II. Agorodd yr adeilad, a enwyd 'Christ Church', yn 1864 i wasanaethu cynulleidfa Anglicanaidd Saesneg Llanfairfechan. Yn 1999, yn dilyn cau hen eglwys y plwyf, Eglwys y Santes Fair, lle cynhaliwyd gwasanaethau Cymraeg, ailenwyd yr adeilad yn 'Eglwys y Santes Fair a Christ'. Heddiw mae'r eglwys yn rhan o Ardal Weinidogaeth Bro Dwylan yn Esgobaeth Bangor ac, ynghyd ag Eglwys Dewi Sant (Penmaenmawr) ac Eglwys Gwynin Sant (Dwygyfylchi), mae'n gwasanaethu cymunedau dwyieithog Aber, Llanfairfechan, Penmaenmawr a Dwygyfylchi.
Bydd yr adeilad ar agor i'r cyhoedd ddydd Sadwrn Medi 12 rhwng 10 y bore a 4 y pnawn. Bydd cyfle i ddysgu rhywfaint am wreiddiau a hanes Cristnogaeth yn Aber a Llanfairfechan, i weld ffenestri lliw a nodweddion eraill yr adeilad, ac i sgwrsio gyda rhai o'r plwyfolion am waith a chenhadaeth Bro Dwylan, gan gofio mai pobl ac nid adeilad yw'r Eglwys yn ei hanfod.
Eglwys y Santes Fair a Christ, Ffordd Aber, Llanfairfechan, Conwy Cyfeirnod OS: SH 680 752
Wrth ddod i mewn i Lanfairfechan o gyfeiriad Bangor mewn car, fe welir yr eglwys ar y dde. Trowch i'r dde gyferbyn a'r safle bws a dilynwch y lon i fyny at yr eglwys. Wrth ddod i mewn i Lanfairfechan o gyfeiriad Penmaenmawr, dilynwch y ffordd at y goleuadau traffig, ewch yn syth ymlaen am tua 100 metr a throwch i'r chwith ger y gofeb rhyfel a dilynwch y lon i fyny at yr eglwys. Mae lle i tua 10 car barcio o flaen yr eglwys. Os na fydd lle o flaen yr eglwys, gallwch barcio ar y brif ffordd tu draw i'r safle bws. Os ydych yn teithio ar fws, mae safle bws ger y lon sy'n arwain at yr egwlys.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 12 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|