Drysau Agored - Eglwys y Santes Fair, Hwlffordd
Mae Eglwys y Santes Fair yn eglwys Anglicanaidd yng nghanol Hwlffordd, Sir Benfro, ac mae wedi'i lleoli ar ben uchaf Stryd Fawr y dref. Mae'r adeilad rhestredig Gradd I hwn yn dyddio o'r 12fed ganrif ac mae'n gartref i organ eglwysig weithredol hynaf Cymru.
Mae Treftadaeth Hwlffordd yn cynnal bore o wneud printiau ac arddangosfa o’r tu mewn, cyn agor Neuadd Ddirwest Hwlffordd ar ei newydd wedd yn 2027. Tra bod gwaith adeiladu yn dal i gael ei gynnal yn y lleoliad treftadaeth, bydd bore agored creadigol mewn lleoliad hanesyddol cyfagos - Eglwys y Santes Fair ganoloesol ar y Stryd Fawr. Ymwelwch am gyfle i roi cynnig ar rai technegau gwneud printiau, dysgu am y cynlluniau terfynol ar gyfer y Neuadd Ddirwest, a gweld peth o'r gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau o safbwynt cymydog.
Cyfeiriad - 8 Y Stryd Fawr, Hwlffordd, SA61 2DA.
Wedi'i leoli ar ben uchaf y Stryd Fawr yng nghanol Hwlffordd.
Ar y trên: Mae Gorsaf Drenau Hwlffordd yn daith gerdded 10 munud i fyny'r rhiw trwy Heol Cartlett a'r Stryd Fawr.
Ar y bws: mae gwasanaethau lleol (gan gynnwys T5, T11, a llwybrau tref 301/302) yn stopio yn Hwlffordd gerllaw
Mae’r Orsaf fysiau neu Faes Picton, yn daith gerdded 3 munud i ffwrdd.
Mewn car: Dilynwch yr A40/A487 i ganol y dref. Mae parcio aml-lawr a thalu ac arddangos ar gael o fewn taith gerdded 5 munud (e.e. Rifleman’s Lane a Llyn y Castell).
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 14:00
|