Drysau Agored - Eglwys y Santes Fair, Panteg
Eglwys Fictoraidd hardd, wedi'i lleoli mewn pant teg. Gwelir rhai cerrig beddau rhestredig yn y fynwent ynghyd â choed yw hynafol. Mae'r wal ddeheuol yn rhannol ganoloesol ac mae bedyddfaen o'r 12fed ganrif islaw yr un o'r 19eg ganrif.
Dewch i weld cofrestri’r eglwys sy'n dechrau ym 1598. Defnyddiwch daflen dywys yr eglwys i archwilio'r gwahanol nodweddion pensaernïol diddorol. Ymunwch ar daith o amgylch yr eglwys a'r fynwent.
Lôn yr Eglwys, New Inn, NP4 OTS.
Mynediad mewn car ar hyd lôn fer gyda maes parcio wrth ymyl yr eglwys.
Gwasanaeth bws o Gasnewydd a'r Fenni A4042 i New Inn, gyda thaith gerdded fer i lawr Lôn yr Eglwys. Mynediad i gadeiriau olwyn trwy dramwyfa'r eglwys. Toiled cyhoeddus y tu mewn i'r eglwys.
Does dim angen archebu lle.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 14 Medi 2024 |
10:00 - 14:00
|