Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Daw’r disgrifiad cyntaf o’r Eglwys bresennol o 1833, ond cafodd ei newid yn sylweddol yn 1839. Adnewyddwyd yr eglwys eto yn 1903, gyda chymorth teulu Mortimer Jones. Mae ffenestr hardd y dwyrain, “The Adoration of the Magi”, yn dyddio o 1839. Yn uchel ar y muriau gorllewinol y mae dwy ffenestr hynafol y tybir eu bod yn cynnwys darnau sylweddol o’r Canol Oesoedd. Ymhlith yr eitemau difyr eraill ceir maen coffa ag arno ysgrifen Lladin i Ona Ellena Mutton 1643, cist dderw hynafol, ffont o’r 14eg ganrif, cerrig bedd difyr or 18fed ganrif, deial haul – 1736, a Chloch – 1840.

Bydd Cofrestri’r Eglwys ar gael i'w harchwilio.

Eglwys San Ffraid, Stryd yr Eglwys, Glan Conwy, Bae Colwyn, Conwy, LL28 5NB

Mae gorsaf drenau yng Nglan Conwy, ac mae bysiau yn teithio ar hyd yr A470. Mae’r eglwys ym mhen pellaf y stryd sydd yr ochr draw i’r A470 o’r orsaf.

Mae dau ris uchel yn arwain o’r lôn at lwybr yr eglwys, ac yna mae allt fechan tuag at y drws. Mae tir yr eglwys yn hygyrch ond yn anwastad. 

 

 


Prisiau

Am Ddim