Skip to main content

Bu Dyfnog Sant yn byw ar y safle hwn (tua 570 OC), a bu’n dwyn penyd trwy sefyll yn nyfroedd oer y ffynnon yn ei grys gwallt. Arweiniodd hyn at y dyfroedd yn cael eu priodoli â phwerau iacháu i wella afiechydon fel byddardod, mudandod, crach a’r frech wen. Anghofiwyd amdani ar ôl y diwygiad, ond cafodd adfywiad dros dro yn ystod y cyfnod Sioraidd cyn mynd yn segur eto.

Dechreuwyd prosiect adfer yn 2012 pan ffurfiodd pobl leol gymdeithas gadwraeth. Ar ôl derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol, mae basn y ffynnon, y pontydd a’r waliau wedi’u cadw ac mae llwybr wrthi’n cael ei gwblhau i ganiatáu mynediad i’r safle.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Llanrhaeadr, Denbighshire, LL16 4NN.
///what 3words: (CYM) ///gwichiad.mabolgampau.atodi   (Eng) ///unearthly.thumb.stolen

Mae Llanrhaeadr yng Nghinmeirch yn bentref bychan a osgoir gan yr A525, tua 3.5 milltir i’r de o Ddinbych. Trowch oddi ar yr A525 wrth ymyl arwyddbost y pentref; mae Eglwys Sant Dyfnog yng nghanol y pentref gyferbyn â thafarn y King’s Head. Mae’r llwybr i’r Ffynnon heibio i’r eglwys sy’n mynd i Ddinbych a gellir ei chyrchu hefyd trwy ben pellaf mynwent yr eglwys.

Gwasanaeth Bws: Mae X51 (Arriva) yn stopio yng nghanol y pentref ac yn cynnig cysylltiad â Dinbych, Rhuthun a Wrecsam ar ddydd Sadwrn; dim gwasanaeth ar y Sul.

 


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00