Skip to main content

Codwyd yr adeilad hwn yn 2014 ar hen safle Autoworld. Fe'i ffurfiwyd mewn partneriaeth dan reolaeth Grŵp Cynefin, gyda chefnogaeth adrannau gwasanaethau ieuenctid a thai Cyngor Sir Ddinbych, Grwp Llandrillo Menai, a Phrosiect Ieuenctid Dinbych.

Yn ogystal â chefnogi pobl ifanc, mae wedi trawsnewid safle yng nghanol Dinbych a fu’n mynd â’i ben iddo ers tro, gan greu cyfleuster a fydd yn rhoi budd i'r gymuned gyfan am gyfnod hir.

Ddydd Sadwrn bydd gweithdy ei gaffi atgyweirio ar waith rhwng 10am a 3pm.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma - 
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Nid oes angen archebu lle.

Smithfield Rd, Dinbych, LL16 3RB.
///what 3words: (CYM) ///anhrefn.llechen.gweladwy   (ENG) ///blossom.windpipe.affords


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 15:00