Drysau Agored - Llanerchaeron
Fila Sioraidd gain a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash yn 1790, gyda gardd â mur o’i chwmpas, llyn ar dir fferm a pharcdir gwyllt. Yn rhyfeddol, mae wedi’i chadw yr un fath ers dros 200 mlynedd.
Fila Sioraidd - Fila Sioraidd gain a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash.
Parcdir a llyn - ystâd gyda llwybrau wedi'u harwyddo a choetir yn llawn bywyd gwyllt o amgylch afon Aeron. Mae’n cael ei warchod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Gardd â mur o’i chwmpas - adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac mae'r ardd wedi bod yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ers dros 200 mlynedd.
Iard Fferm - buarth fferm traddodiadol Cymreig sy'n gartref i amrywiaeth o fridiau Cymreig.
Cyfeiriad - Ciliau Aeron, ger Aberaeron, Ceredigion, SA48 8DG.
Cyfarwyddiadau. Ar y ffordd - Mae Llanerchaeron 2.8 milltir i'r dwyrain o ganol Aberaeron, ar hyd yr A482.
Ar droed - cerddwch neu feiciwch y llwybr 2 filltir a hanner o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd yr hen reilffordd. Enw’r llwybr yw Llwybr Coedlan Allt y Graig.
Ar fws - mae'r bws T1 o Aberystwyth yn gadael bob awr ac yn mynd â chi i Aberaeron. Mae'r T5 a'r X50 o Aberteifi i Aberaeron yn mynd bob 1.5 awr. Mae Llanerchaeron 2.5 milltir o Aberaeron.
Beicio - cerddwch neu feiciwch y llwybr 2.5 milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd yr hen reilffordd. Enw’r llwybr yw Llwybr Coedlan Allt y Graig.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Am Ddim | ||
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Medi 2025 |
11:00 - 15:30
|
Sul 21 Medi 2025 |
11:00 - 15:30
|