Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Llyfrgell Gladstone ym Mhenarlâg yng ngogledd Cymru. Fe’i sefydlwyd gan William Ewart Gladstone yn 1894, a hi yw’r unig lyfrgell Prif Weinidogol yn y Deyrnas Unedig ac un o’r ychydig lyfrgelloedd preswyl yn y byd. Cynlluniwyd yr adeilad rhestredig gradd I presennol gan John Douglas, ac fe’i hadeiladwyd fel y gofeb genedlaethol i Gladstone yn fuan wedi ei farwolaeth.

Yn ogystal ag Ystafelloedd Darllen hardd sy’n gartref i 150,000 o lyfrau printiedig (gydag 20,000 ohonyn nhw’n perthyn i Gladstone ei hun), mae gan y llyfrgell fwyty a chaffi, capel, 26 ystafell wely, ystafell eistedd glyd, a gerddi hyfryd.

Dewch i weld rhai o uchafbwyntiau casgliadau printiedig ac archifau Llyfrgell Gladstone, cael taith o amgylch yr Ystafelloedd Darllen, a mynd y tu ôl i’r llenni yn yr ystafelloedd diogel.

Bydd digwyddiad eleni yn canolbwyntio ar flynyddoedd cynnar Llyfrgell Gladstone. Byddwch yn archwilio sefydlu’r llyfrgell gan William Gladstone ym 1894 a sut olwg oedd arno yn ystod ei oes, adeiladu’r adeilad presennol fel cofeb genedlaethol i Gladstone ar ôl ei farwolaeth, ac ymwelwyr cynnar â’r llyfrgell. Bydd trafodaeth hefyd am Gladstone fel darllenydd a llyfrgarwr gydol ei oes, ei weledigaeth ar gyfer y llyfrgell, ac am sut y mae hyn yn cael ei weithredu heddiw.

Mae angen archebu lle. Cynhelir pum taith drwy gydol y dydd, a byddant yn para tua 60 munud yr un. Bydd y teithiau hyn yn cychwyn o brif fynedfa Llyfrgell Gladstone am: 9.30am, 10.45am, 12pm, 2pm, 3.15pm.

Archebwch le trwy ffonio Llyfrgell Gladstone ar 01244 532350 neu anfon e-bost at enquiries@gladlib.org

Mae’n bosibl y bydd y sawl sy’n archebu taith o amgylch Llyfrgell Gladstone hefyd am archebu taith o amgylch Archifdy Gogledd-ddwyrain Cymru yn yr Hen Reithordy ac o amgylch Neuadd Seiri Rhyddion Penarlâg, y ddau’n daith gerdded fer o’r llyfrgell.

Cyfeiriad – Llyfrgell Gladstone, Lôn yr Eglwys, Penarlâg, Sir y Fflint, CH5 3DF.

Mae Lôn yr Eglwys oddi ar Ffordd Glynne, Penarlâg. Gyrrwch ar hyd Lôn yr Eglwys, yna trwy set o gatiau agored ar y chwith. Mae digon o le parcio ar gael.
Ar drên: Mae Penarlâg ar linell Wrecsam-Bidston.
Ar fws: gwasanaethau bws 11 a 4 rheolaidd i Benarlâg o Gyfnewidfa Bysiau Caer a Gorsaf Rheilffordd Caer, ac o orsafoedd bysiau Yr Wyddgrug a Threffynnon.

Mae’r Ystafelloedd Darllen, bwyty a chaffi, capel, ystafell eistedd, a gerddi ar gael i ddefnyddwyr ag anableddau. Mae’r ystafelloedd diogel i lawr coridor eithaf cul a allai fod yn rhwystr i gadeiriau olwyn ehangach neu sgwteri symudedd. Mae llefydd parcio o flaen yr adeilad.


Prisiau

Am Ddim