Cyfle i ddysgu am safle Beddau Rhyfel y Gymanwlad ym Mynwent Llanilltud, Castell-nedd.
Ymunwch â thaith gan dywysydd profiadol, sy'n para hyd at awr, o amgylch y beddau rhyfel sydd yn y fynwent. Gwrandewch ar hanes Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad; a chlywed straeon am y milwyr sydd wedi’u claddu yno, yr ysbyty rhyfel yn Llansawel a'r terfysgoedd gwrth-Almaenig yng Nghastell-nedd yn 1915.
Dewch i brif fynedfa'r fynwent ar gyfer dechrau am 2pm.
Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Archebwch drwy wefan Beddau Rhyfel y Gymanwlad, o dan y tab teithiau lleol - www.cwgc.org
Cyfeiriad - Mynwent Llanilltud, Heol Llanilltud, Castell-nedd, SA11 3LB.
Cyfarwyddiadau - yr A465 o Ferthyr, yna'r B4434.
O Gastell-nedd - y B4434.
Nid oes gwasanaeth bws dydd Sul i'r digwyddiad.
Parcio cyfyngedig, dim toiledau, croeso i gŵn.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sul 20 Med 2026 |
14:00 - 15:00
|