Drysau Agored - Neuadd Ddirwest, Hwlffordd
Mae Neuadd Ddirwest Hwlffordd yn adeilad rhestredig Gradd II trawiadol. Ar ôl cael ei hadeiladu ym 1888, yn wreiddiol roedd yn fan ymgynnull i'r rhai oedd yn dilyn y mudiad Dirwest. Wrth i anghenion y gymuned newid, felly addaswyd y neuadd. Cafodd ei defnyddio am gyfnod byr fel siambrau cyngor cyn cael ei defnyddio fel sinema yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac yna fel llety ar gyfer milwyr o’r Iseldiroedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn dilyn hyn, roedd yn neuadd bingo, Cyfrinfa’r Seiri Rhyddion, a swyddfa dreth. Heddiw, mae’n cael ei hadnewyddu a'i haddasu i fod yn argraffdy cymunedol
Tra bod yr adeilad yn cael ei adnewyddu, efallai na fydd yn bosibl i'r cyhoedd fynd i mewn i'r adeilad, er y byddwn yn ymdrechu i gynnig y ddarpariaeth hon os yw'n bosibl, a’i bod yn cael ei hystyried yn ddiogel i wneud hynny. Byddwn hefyd yn cyflwyno sgwrs fer am yr adeilad ac yn cyflwyno taith gerdded fer o amgylch canol Hwlffordd i unrhyw un sydd am wneud hyn. Amseroedd penodol i'w cadarnhau.
Nid oes angen archebu lle.
Cyfeiriad - Neuadd Ddirwest, 3 St Mary's Street, Hwlffordd, SA61 2DR.
Mae St Mary’s Street oddi ar y Stryd Fawr yn Hwlffordd, ger Eglwys y Santes Fair.
Ychydig iawn o leoedd parcio sydd gerllaw, felly rydym yn argymell i chi barcio yn un o’r prif feysydd parcio yn y dref.
Gallwch deithio i Hwlffordd ar y trên neu ar y bws, gan gynnwys TrawsCymru T5 (o Aberystwyth), T11(o Abergwaun a Thyddewi) neu wasanaeth First Buses Traveline 322 o Gaerfyrddin. Mae
nifer o wasanaethau bws lleol eraill yn mynd a dod i’r trefi cyfagos hefyd.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Medi 2025 |
10:00 - 14:00
|