Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Tŷ hanesyddol Newton wedi'i amgylchynu gan Warchodfa Natur Genedlaethol a Pharc Ceirw wedi’i dirlunio sy’n dyddio o’r 18fed ganrif.

Maenordy o'r 17eg ganrif yw Tŷ Newton: gofod gydag arddangosfeydd ac ymyriadau cyfoes sy'n adlewyrchu amrywiol agweddau ar fywyd yn Ninefwr dros y canrifoedd. Mae'n gysylltiedig â Gardd y Ffownten, â golygfeydd eang allan i'r Parc Ceirw. 

Mae yno dros 800 erw o barcdir bryniog, dolydd a choedlannau, sy'n cynnwys Parc Ceirw canoloesol gyda llwybr pren hygyrch a llawer o goed hynafol.

Lleoliad - Tŷ Newton, Parc Dinefwr, SA19 6RT.

Cyfarwyddiadau. Ar y ffordd - Llywio Lloeren: Fydd defnyddio’r cod post ddim yn eich anfon i’r man cywir. Chwiliwch am 'Ymddiriedolaeth Genedlaethol Dinefwr'/’National Trust Dinefwr’ ar fapiau neu dilynwch yr arwyddion brown â deilen derwen arnynt yn lle hynny. Os ydych chi'n teithio i Ddinefwr o’r dwyrain neu’r gorllewin, defnyddiwch yr A40 i Landeilo neu defnyddiwch yr A483 os ydych chi'n teithio o Abertawe.
Parcio: Sylwch fod angen cerdded tua 50 llath o'r maes parcio i Dŷ Newton.
Llywio Lloeren: Peidiwch â defnyddio'r llywio lloeren gan na fydd yn eich anfon i’r man cywir. What3Words : Compelled : Trailer : Park
Ar y trên - yr orsaf agosaf yw Llandeilo, sydd 1.5 milltir o Barc Dinefwr. Mae Llinell Calon Cymru yn rhedeg tua'r de i Abertawe neu tua'r gogledd i Amwythig.

Mae’r amserlenni yn gyfyngedig felly gwiriwch ar-lein cyn i chi deithio.
Ar fws - gwasanaethau i Landeilo. Edrychwch ar www.traveline.cymru i weld yr amserlenni diweddaraf. Mae'r arhosfan bysiau agosaf i Barc Dinefwr ar Heol Caerfyrddin, Llandeilo.

Nid oes angen archebu ymlaen llaw.


Prisiau

Categori Price
Am ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 20 Medi 2025
10:30 - 16:30
Sul 21 Medi 2025
10:30 - 16:30