Drysau Agored - Profiad y Bathdy Brenhinol
Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn atyniad unigryw i ymwelwyr yn Ne Cymru sy'n cynnig cipolwg y tu ôl i'r llenni ar grefftwaith a hanes gwneud darnau arian a'r Bathdy Brenhinol. Gall gwesteion gael eu tywys o gwmpas y ffatri ac ymweld â'n harddangosfa i ddysgu am hanes y Bathdy Brenhinol dros 1,100 o flynyddoedd. Mae'r profiad yn cynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol sy'n arddangos darnau arian prin, y grefft o ddylunio, ac arwyddocâd byd-eang y Bathdy. Gall ymwelwyr hyd yn oed greu eu darn arian eu hunain i fynd ag ef adref gyda nhw (mae tâl yn berthnasol). Mae’r atyniad yn berffaith ar gyfer teuluoedd, rhai sy’n ymddiddori mewn hanes, ac ymweliadau grŵp. Mae’n cyfuno addysg ac adloniant er mwyn mynd ar daith fythgofiadwy trwy dreftadaeth Prydain.
Fel rhan o Ddrysau Agored Cadw, mae'r digwyddiad arbennig hwn ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol yn cynnig cyfle unigryw i fynd y tu ôl i lenni dros 1,100 mlynedd o hanes. Dewch i gwrdd â thîm yr amgueddfa, cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol, a mwynhau sgyrsiau diddorol sy'n dod â stori'r Bathdy Brenhinol yn fyw. Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i archwilio ei hen hanes gan ddechrau yn Nhŵr Llundain a thrafod ei daith ddiddorol trwy'r canrifoedd a sut y daethom i Gymru.
Profiad y Bathdy Brenhinol Bathdy Brenhinol Llantrisant CF72 8YT
Oherwydd y lleoliad, nid oes trafnidiaeth gyhoeddus ar gael.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Mer 02 Med 2026 |
10:00 - 14:00
|
| Mer 09 Med 2026 |
10:00 - 14:00
|
| Mer 16 Med 2026 |
10:00 - 14:00
|
| Mer 23 Med 2026 |
10:00 - 14:00
|
| Mer 30 Med 2026 |
10:00 - 14:00
|