Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Sefydliad y Glowyr Llanhiledd yn adeilad rhestredig Gradd 2 sy'n dal i fod yn ganolfan gymunedol ffyniannus,yn lleoliad digwyddiadau ac yn safle o ddiddordeb hanesyddol. Wedi'i agor ym 1906, eleni mae Sefydliad Glowyr Llanhiledd yn 120 oed ac rydym yn dathlu ein hanes gyda rhaglen o ddigwyddiadau unigryw a gynhelir drwy gydol y flwyddyn. Mae'r Sefydliad wedi cadw'r rhan fwyaf o'i nodweddion gwreiddiol ac mae’n ymestyn dros dri llawr, gyda’r Neuadd Ithel fawr yn ganolbwynt trawiadol a'n canolfan dreftadaeth fechan yn cynnig cyfle i ymwelwyr astudio arteffactau a lluniau a chofnodion o ddiddordeb.

Ar y 6 Medi 2026 byddwn yn cynnig teithiau tywys am ddim o amgylch y Sefydliad sy'n amlygu manylion hanesyddol ac yn dod â hanes cymdeithasol yr adeilad yn fyw. Bydd arddangosfa arbennig hefyd i’w gweld yn ein hystafell Ebwy Fach, sy'n cynnwys y murlun dathlu newydd a lansiwyd gennym fis Mawrth 2026. Yn ogystal, rydym hefyd yn gobeithio cynnig gweithdai creadigol am ddim i blant a phobl ifanc a fydd yn ennyn eu diddordeb yn hanes yr adeilad ac yn dod â'i hanes yn fyw. 

Rydym yn cynnal teithiau tywys o amgylch yr adeilad dan arweiniad aelodau o dîm y Sefydliad ac yn cynnig gweithdai crefft ar thema treftadaeth i blant a phobl ifanc. Bydd ein caffi ar agor i weini seigiau ar thema treftadaeth a byddwn hefyd yn gwahodd perfformwyr lleol i ganu yn y brif neuadd.

Dim ond ar gyfer teithiau o amgylch yr adeilad a'r gweithdai gweithgareddau plant y bydd angen archebu lle. Bydd ein system Eventbrite bresennol yn cael ei defnyddio i archebu lleoedd ar y gweithgareddau hyn am ddim. Bydd sawl slot amser ar gyfer y teithiau a'r gweithdai plant (tua 6 ar gyfer y ddau). Bydd rhagor o wybodaeth/manylion archebu ar ein tudalen Facebook, ar 01495 400204 neu ar enquiries@llanhillethinstitute.com

Cyfeiriad - Sefydliad y Glowyr Llanhiledd, Llanhiledd, Abertyleri, Blaenau Gwent, NP13 2JT

Mae mynediad llawn i'r anabl a pharcio yn union y tu allan i'r Sefydliad. Mae gorsaf drenau Llanhiledd 90 metr o fynedfa'r adeilad sy'n cynnwys cysylltiadau ardderchog â Chasnewydd, Caerdydd a Glyn Ebwy. Mae prif arhosfan bysiau’r pentref 120 metr o'n prif fynedfa, gyda chysylltiadau ardderchog â threfi lleol. Mae'r Sefydliad wedi'i leoli 3 milltir o dref Abertyleri ac mae Llanhiledd ychydig oddi ar yr A467 Ffordd Aber-bîg.


Prisiau

Am ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 06 Med 2026
11:00 - 16:00