Skip to main content

Dyma un o’r ychydig adeiladau dinesig ym Mhrydain a adeiladwyd yn gyfan gwbl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i cynlluniwyd fel neuadd dref, neuadd farchnad a gorsaf dân. Fe’i dynodwyd yn adeilad rhestredig gradd II* ac mae’n enghraifft dda o adeilad cyhoeddus gwych o ddechrau’r 20fed ganrif sydd o ddyluniad beiddgar a soffistigedig, manwl ac mae hefyd yn cynnwys defnydd cymharol gynnar o goncrit wedi’i atgyfnerthu. Mae siambr y cyngor ar y llawr cyntaf yng nghefn yr adeilad, ac mae’n dal i weithredu fel ystafell gyfarfod a phencadlys Cyngor Tref Dinbych.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma - 
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.

Lôn Crown, Dinbych, LL16 3TB.
///What3Words: (Eng) ///scan.slams.satellite (CYM) ///anwesol.gwasgariad.gwlychu


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 16:00