Dyma un o'r ychydig adeiladau dinesig ym Mhrydain a adeiladwyd yn gyfan gwbl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae'n sefyll ar safle lle arferai neuadd farchnad fod ac yn wreiddiol roedd ganddo do cromennog. Fe'i cynlluniwyd i fod yn neuadd y dref, neuadd farchnad a gorsaf dân i gyd gyda’i gilydd. Roedd cyngor y dref yn arfer cwrdd yn neuadd y sir, sy’n dyddio o'r 16eg ganrif ac sydd bellach yn gartref i Lyfrgell Dinbych. Dyma’r ganolfan gyfarfod ganolog drwy gydol Penwythnos Drysau Agored Dinbych. Mae cyngor y dref yn dal i ddefnyddio siambr y cyngor.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi 2026 gyda thaith hunan-yrru o amgylch y fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brwcws ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi 2026, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn www.darganfoddinbych.cymru a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire
Lôn Crown, Dinbych, LL16 3T ///What3Words: (Eng)///geology.dust.fractions (Cym) ///golygwr.cytgan.golygus
Mae'r eiddo ar y prif sgwâr yng nghanol Dinbych. Mae arosfannau bysiau gerllaw ar y Stryd Fawr yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth 51/52 o'r Rhyl, Rhuthun a Wrecsam.
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|