Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi'i chysegru i'w nawddsant - Caron, mae'r eglwys yn sefyll ar dir uchel sydd o bosibl ar safle beddrod o'r oes efydd. Adeiladwyd y tŵr trillawr, 60 troedfedd o uchder, sy'n adeilad rhestredig Gradd 2, tua diwedd y 14eg ganrif Ailadeiladwyd gweddill yr eglwys yn 1877. 

Mae'r gosodiadau yn cynnwys bedyddfaen heptagonaidd o'r 14eg ganrif, reredos wedi’i wneud o garreg caen a sgrîn haearn gyr a gysegrwyd yn 1926. Mae ffenestri gwydr lliw yn amrywio o ddechrau'r 1920au pan gysegrwyd y ffenestr Ddwyreiniol i'r rhai fu farw yn y Rhyfel Mawr, i'r diweddaraf (2022) ar yr ochr Ddeheuol, sef ffermwr yn hau hadau sy'n adlewyrchu natur amaethyddol y gymuned.

Ar gyfer Drysau Agored, bydd - 
ymweliadau hunan-dywysedig, 
gwybodaeth a ddarperir neu a arweinir gan wirfoddolwyr,
cofrestrau sy'n dyddio o 1653 i'w gweld,
arysgrifau ar gofebau ar gyfer mynwentydd hen a newydd ar gael i'w darllen, 
arddangosfa - Y Gwir Barchedig George Noakes (1924-2008), Archesgob Cymru, 
taflenni llwybr yr eglwys ar gael i blant sy’n dod gydag oedolion.

Cyfeiriad - Eglwys Sant Caron, Tregaron, SY25 6JA.

Ddim yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Llethr i fyny at y brif fynedfa.

Nid oes angen archebu ymlaen llaw.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Iau 24 Med 2026
11:00 - 15:00
Gwen 25 Med 2026
11:00 - 15:00
Sad 26 Med 2026
11:00 - 15:00