Drysau Agored - Stori Brymbo
Mae Stori Brymbo yn dilyn stori sy’n cael ei hadrodd ers 314 miliwn o flynyddoedd: dyma’r unig safle yn Ewrop lle cafodd coedwig ffosil ei chloddio, ac yma hefyd mae safle o dreftadaeth ddiwydiannol sylweddol lle bu diwydiannau glo, haearn a dur yn ffynnu. Rydym yn dathlu'r natur a'r bobl sydd wedi dylanwadu ar ein tirwedd heddiw, er budd y dyfodol.
I gydnabod y gefnogaeth y mae Cadw wedi’i roi i ni, rydym yn eich gwahodd ar ein taith yn rhad ac am ddim ar y diwrnod arbennig hwn. Dewch i fwynhau ein hanes lleol ac i ddathlu'r straeon sy'n ein cysylltu.
Sylwch na chewch fynediad i’r safle ar ôl 4pm.
Lleoliad – Stori Brymbo, Stryd Fawr Newydd, Brymbo, Wrecsam, LL11 5AX.
Teithio mewn car: Mae gennym gysylltiadau da â’r rhwydwaith ffyrdd a thraffyrdd, ac mae maes parcio am ddim ar y safle, gan gynnwys nifer fach o fannau parcio i'r anabl. Ar ôl i chi adael yr A483 ar gyffordd 4, dilynwch y baneri i’n cyrraedd ni. Teithio ar y trên: Gorsaf Wrecsam Cyffredinol yw’r brif orsaf agosaf, mae gorsaf fysiau Wrecsam o fewn 10 munud o gerdded, ac oddi yno gallwch ddal bws i Brymbo (gweler yr adran Teithio ar fysiau am ragor o wybodaeth). Mae dwy orsaf leol arall, Gwersyllt neu Gefn-y-Bedd, sydd tua 2.5 milltir oddi wrthym. Teithio ar y bws: Mae sawl llwybr bys yn cychwyn o Orsaf Fysiau Wrecsam. Gallwch ddefnyddio tudalen cynllunio teithiau Arriva i weld yr amserlenni a chynllunio'ch taith: https://www.arrivabus.co.uk/plan-your-journey
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Maw 22 Med 2026 |
14:00 - 17:00
|
| Mer 23 Med 2026 |
14:00 - 17:00
|
| Iau 24 Med 2026 |
14:00 - 17:00
|
| Gwen 25 Med 2026 |
14:00 - 17:00
|
| Sad 26 Med 2026 |
14:00 - 17:00
|