Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn yn hanes a diwylliant Cymru. Y ffermdy hwn oedd man geni’r Esgob William Morgan, y cyntaf i gyfieithu’r Beibl cyfan i Gymraeg, gan sicrhau goroesiad yr iaith.
I ddathlu Drysau Agored, bydd Tŷ Mawr ar agor am ddiwrnod ychwanegol (dydd Sadwrn 5 Medi), gyda sgyrsiau am ei hanes a'i arwyddocâd diwylliannol dros y penwythnos.
Cyfeiriad: Tŷ Mawr Wybrnant, Penmachno, Betws y Coed, Conwy, LL25 0HJ.
Mynediad o'r A5 yn unig. 3 milltir i'r de o Fetws-y-coed, cymerwch y B4406 i Benmachno. Yng nghanol y pentref, trowch i ffwrdd yn syth heibio tafarn yr Eagles ar eich chwith (gan anwybyddu troad i'r dde yn syth) a pharhau nes i chi gyrraedd fforc yn y ffordd. Cymerwch y troad i'r dde i fyny i'r fforest. Sylwch mai lôn gul yw hon, gydag ymylon serth ar bob ochr a phrinder llefydd pasio. Parhewch yn syth (gan anwybyddu unrhyw droadau i'r chwith neu i'r dde yn y fforest) am 2 filltir nes i chi gyrraedd Tŷ Mawr Wybrnant.
Maes parcio ar y chwith, tua. 500 llath cyn cyrraedd Tŷ Mawr. Parcio hygyrch (2 le) ewch ymlaen i lawr yr allt a pharciwch ger y fynedfa. Sylwch, NID yw'n bosibl troi i'r chwith wrth adael y prif faes parcio, bydd eich cerbyd yn mynd yn sownd / difrodi.
Defnyddiwch god post LL24 0UG i gyrraedd pentref Penmachno a dilynwch arwyddion brown a chyfarwyddiadau oddi yno. Sylwch nad yw SatNav yn gweithio gyda chod post Tŷ Mawr Wybrnant.
Ar y trên - Pont-y-Pant 2½ milltir.
Ar fws - Llanrwst i Gwm Penmachno (heibio gorsaf drenau Betws-y-coed), gadael y trên ym Mhenmachno, yna cerdded 2 filltir.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 05 Med 2026 |
12:00 - 16:00
|
| Sul 06 Med 2026 |
12:00 - 16:00
|