Drysau Agored - Venue Cymru
Venue Cymru; Theatr a chanolfan gynadledda ar arfordir Gogledd Cymru.
Ydych chi erioed wedi gofyn i chi'ch hun, beth sy’n digwydd tu ôl i’r llenni pan mae'r perfformiad drosodd?
Ymunwch â ni am daith unigryw tu ôl i’r llenni yn Venue Cymru a darganfyddwch y cyfrinachau sy’n troi theatr yn lle o ryfeddod. Cewch gyfarfod â rhai o’r tîm talentog sy’n gweithio i ddod â phob perfformiad yn fyw. Crwydrwch drwy’r ystafelloedd gwisgo a safwch yn y goleuadau ar ein llwyfan. Ar hyd y ffordd, mwynhewch flas o’n darpariaeth arlwyo ar y safle a chlywch am ein cynlluniau adnewyddu cyffrous.
Bydd pob taith yn para tua 45 munud, gyda hyd at 16 o bobl ym mhob taith.
Ewch i - https://venuecymru.ticketsolve.com/shows/1173676633/events neu ffonwch 01492 872000 i archebu.
Venue Cymru, Irving road, Llandudno, Conwy LL30 1BB
Llwybrau Teithio:
Mewn Car: Gadewch yr A55 ar gyffordd 19 a dilynwch yr arwyddion am Landudno. Ewch ar yr A470 (Ffordd y Cymry Brenhinol) a dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown ar gyfer Venue Cymru. Mae maes parcio talu ac arddangos yng nghefn yr adeilad yn ogystal ag ar y promenâd o’i flaen. Ar y Bws: mae sawl gwasanaeth bws yn stopio y tu allan neu'n agos at ein hadeilad: 12, Y Rhyl i Landudno; 5/x5, Bangor i Llandudno; X1, Blaenau Ffestiniog trwy Lanrwst a Betws-y-Coed. Trên: Mae gorsaf drenau Llandudno oddeutu 10 munud ar droed o Venue Cymru. Ar ôl gadael yr orsaf, trowch i'r chwith a dilynwch Stryd Vaughan nes cyrraedd Mostyn Broadway, dilynwch Mostyn Broadway a bydd Venue Cymru ar y chwith ychydig heibio i ganolfan nofio Llandudno.
Mae’r digwyddiad yn gwbl hygyrch, ond rydym yn annog pobl i ffonio os oes ganddynt unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am ein safle.
Prisiau
| Categori | Price |
|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 19 Med 2026 |
10:30 - 17:00
|