Adeiladwyd Capel Methodistaidd Capel Mawr yn wreiddiol ym 1793, ac fe'i ailadeiladwyd ym 1829, gydag ysgoldy a festri wedi'u hychwanegu ym 1867. Mae'r capel presennol, sy'n dyddio o 1880, wedi'i adeiladu yn yr arddull Glasurol gyda mynedfa hir a lle i tua mil o bobl eistedd yn y capel. Fe'i hadeiladwyd ar ddyluniad y pensaer Richard Owen (Lerpwl), gyda newidiadau pellach ym 1892 gan y pensaer Richard Davies (Bangor). Gosodwyd yr organ ym 1905. Mae Capel Mawr wedi'i Restru yn Adeilad Gradd 2 fel enghraifft arbennig o dda o gapel o ddiwedd y 19eg ganrif gyda chymeriad gwreiddiol da a thu mewn cain.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi gyda Thaith hunan-yrru o amgylch y Fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brookhouse ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn -
www.darganfoddinbych.cymru
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Cyfeiriad - Stryd y Capel, Dinbych, LL16 3SP.
what3words: (CYM) ///llwyo.esgusodi.ailgysylltu
(ENG) ///irrigate.unloaded.basis
Mae'r eiddo ar ddiwedd Stryd y Capel, y stryd gyntaf ar y dde wrth i chi deithio i lawr Stryd y Dyffryn o'r Stryd Fawr.
Mae arosfannau bysiau gerllaw ar y Stryd Fawr yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth 51/52 o'r Rhyl, Rhuthun a Wrecsam.
Nid oes angen archebu ymlaen llaw.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 16:00
|