Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae safle'r Farchnad Fenyn yn dyddio o 1848 ac arferai fod yn rhan o ganolfan fwy Marchnad y Fwrdeistref rhwng Llain y Capel a Lôn Crown. Cafodd y brif ran ohoni ei dymchwel a'i disodli gan neuadd y dref bresennol. Roedd y rhan sydd wedi goroesi yn gwasanaethu fel marchnad dan do ar gyfer gwerthu caws a menyn ac, uwchben y farchnad, roedd ystafell ymgynnull fawr yn wreiddiol. Ers hynny mae wedi bod yn fragdy ac yn gampws addysg.

Mae bellach yn ganolfan gymunedol aml-ddefnydd sy'n gartref i gaffi cymunedol ac amgueddfa, gan gynnwys ardal dreftadaeth sy’n dathlu pwysigrwydd y diwydiant argraffu i'r dref.

Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi gyda Thaith hunan-yrru o amgylch y Fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brookhouse ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn -
www.darganfoddinbych.cymru 
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

Cyfeiriad - Llain y Capel, Dinbych, LL16 3TU.
what3words:
(ENG) ///brilliant.procured.actual
(CYM) ///crensian.barbwyr.ailsefyll

Mae prif gyfleuster parcio Dinbych yn Lleiniau'r Ffatri. Gellir cyrraedd yr eiddo ar droed o'r Stryd Fawr trwy Lôn Crown i'r dde o Neuadd y Dref.
Mae arosfannau bysiau gerllaw ar y Stryd Fawr yn cael eu gwasanaethu gan y gwasanaeth 51/52 o'r Rhyl, Rhuthun a Wrecsam.

Nid oes angen archebu ymlaen llaw.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Med 2026
10:00 - 16:00
Sul 20 Med 2026
10:00 - 16:00