Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae'r Pales yn Dŷ Cwrdd a oedd yn perthyn i’r Crynwyr ac yn Adeilad Rhestredig Gradd II* wedi'i leoli yn Llandeglau, Powys. Mae bellach yn eiddo i Addoldai Cymru. Mae’r cofnodion sydd ar gael yn nodi bod tir wedi'i brydlesu ar gyfer mynwent ar y safle mor bell yn ôl â 1673, a chodwyd tŷ cyfarfod ar y tir ym 1717 ac fe'i ailadeiladwyd ym 1745.

Cynhaliwyd ysgol ar y safle am gyfnod byr ar ddiwedd y 19eg ganrif, ac adeiladwyd tŷ annedd ger y Tŷ Cwrdd ar gyfer y tiwtor a'i deulu. Daeth hwn yn Dŷ'r Warden pan ddefnyddiwyd y safle ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau.

Yn ogystal â bod o ddiddordeb ysbrydol a hanesyddol, mae'r safle wedi'i leoli o fewn Geoparc newydd Calon Cymru.

Mae hwn yn gyfle i bobl ymweld â'r Pales a phrofi ei dawelwch a'i awyrgylch ysbrydol arbennig.

Cyfeiriad - Tŷ Cwrdd y Crynwyr, Y Pales, Llandeglau, Llandrindod, LD1 5UH.

Cyfarwyddiadau - wrth yrru trwy Landeglau, mae arwydd treftadaeth brown ar gyfer y troad i’r Pales. Mae'r troad yn ymdroelli trwy gefn gwlad cyn culhau a mynd i fyny bryn serth. Ar ben y bryn, gyda'r fferm ar y dde, trowch i'r chwith. Mae arwydd yn dangos y troad yma hefyd. Daliwch ati ar hyd y ffordd fynyddig nes i chi gyrraedd y Pales ar y chwith. Gyrrwch ychydig ymhellach nes i chi gyrraedd y chwarel ar y dde, lle mae digon o le i barcio.

Nid oes angen archebu ymlaen llaw.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 19 Med 2026
11:00 - 15:00