Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae’r Hen Dŷ Cwrdd, wedi ei restru yn Adeilad Gradd II, a dyma’r achos anghydffurfiol cynharaf yng Nghwm Cynon. Adeiladwyd y capel cyntaf mewn cae oedd yn eiddo i hen fferm y Gadlys Uchaf; rhoddwyd y brydles ar 5 Mawrth 1751 gan Theophilus Richards a’i hadnewyddu gan ei fab Richard Richards ar 12 Rhagfyr 1796.   

Ailadeiladwyd y capel presennol yn 1862, gan ddilyn cynllun y pensaer Evan Griffiths o Aberdâr, ac fe’i dyluniwyd i fod ‘yn syml a chryf, gan adlewyrchu’r credoau Undodaidd mewn rhyddid, goddefgarwch a maddeugarwch’.  Mae’n gapel canolig o ran maint, yn eistedd 250-300.

Mae Addoldai Cymru wedi cwblhau gwaith adfer ar y capel yn ddiweddar, fel rhan o brosiect gwerth ychydig o dan £250k, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Yn ogystal â gwaith adfer y tu mewn a'r tu allan i'r adeilad, ychwanegwyd toiled a chegin fach at du mewn y capel.


Bydd Addoldai Cymru yn lansio digwyddiad ailagor sy'n cynnwys rhaglen dreigl o eitemau i ddathlu'r ailagoriad fel rhan o ddigwyddiad Drysau Agored. Bydd y diwrnod yn gweithredu ar sail 'galw heibio'. Bydd y rhaglen lawn yn cael ei chyhoeddi ar Facebook a gwefan Addoldai Cymru pan fydd yr holl eitemau wedi'u cadarnhau - 
https://addoldaicymru.cymru/

Cyfeiriad - Hen Dŷ Cwrdd, Stryd Alma, Trecynon, Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, CF44 8NT

Mae’r Hen Dŷ Cwrdd wedi'i leoli ar Stryd Alma ac mae'n amlwg iawn o ochr y ffordd. Nid oes lle parcio pwrpasol, ond dylai fod lle i barcio ar y stryd.

Nid oes angen archebu ymlaen llaw.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 05 Med 2026
11:00 - 15:00