Crewyr Cadw: Adnodd Dysgu Ffenestri Lliw
Canllaw i athrawon ac addysgwyr, gan ddefnyddio treftadaeth adeiledig a gwydr lliw, ar gyfer prosiect dysgu sy’n seiliedig ar y cwricwlwm.
Mae’r canllaw hwn yn darparu fframwaith i athrawon, addysgwyr artistig a disgyblion i archwilio gwydr lliw gan ddefnyddio’r amgylcheddau adeiledig lleol, eglwysi yn benodol, i gael ysbrydoliaeth ym Maes Dysgu a Phrofiad y celfyddydau mynegiannol.
Bydd defnyddio’r canllaw hwn yn darparu o leiaf chwe wythnos o wersi, cyflwyniad i’r cysyniad o waith celf ar safleoedd penodol a datblygu sgiliau artistig. Mae’r adnodd hwn yn darparu golwg fanwl ar wydr lliw gan ganolbwyntio’n benodol ar enghreifftiau o Gymru.
Crëwyd yr adnodd hwn i roi’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen ar addysgwyr artistig i hwyluso prosiect gwydr lliw o safon uchel gyda grŵp o ddysgwyr. Awgrymir fframwaith cynllunio prosiect gyda chysylltiadau clir i ddatganiadau Meysydd Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru yn eirioli’r defnydd o adnoddau diwylliannol lleol ar gyfer dysgu. Mae archwilio’r amgylchedd adeiledig a gwydr lliw ar gyfer gwaith prosiect yn ffordd wych o gyflawni’r amcan hwn, ac mae’n hwyluso Pedwar Diben y cwricwlwm yn glir.
Ceisia’r canllaw hwn helpu athrawon ac addysgwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio gwydr lliw i hwyluso’r arddull dysgu hwn, a’ch galluogi i ddatblygu prosiectau o ansawdd uchel i’w defnyddio gyda disgyblion yn yr ysgol ac mewn lleoliadau addysg gelfyddydol.
Mae’r adnodd hwn wedi bod yn gydweithrediad rhwng Cadw, yr artist a’r hanesydd Dr Martin Crampin, a Swyddogion Esgobaeth Llandaf.