Chwilio am Chwedlau
Oes gennych chi awydd cwrdd â Draig Gymreig go iawn? Wel, dyma eich cyfle — erbyn hyn mae gan Cadw Deulu o Ddreigiau, sy’n cynnwys pedwar bwystfil enfawr.
Mae dreigiau’n greaduriaid dychrynllyd a thanllyd sy'n enwog am eu natur gyfrwys a’u gallu i chwythu tân. Ond oeddech chi’n gwybod eu bod nhw hefyd yn gallu bod yn greaduriaid rhamantus...?
Dewch i gwrdd â Dewi a Dwynwen — Dreigiau Cadw, sydd dros eu pen a’u clustiau mewn cariad.n Fe gawson nhw’n gweld yn cael cwtsh yng Nghastell Caernarfon ar Ddydd Gŵyl Dewi 2017 ac ers hynny maen nhw wedi dod â dwy Ddraig Fach i’r byd.
Dewi yw tad y teulu — y Ddraig goch a du a ddaeth yn enwog ar ôl glanio yng Nghastell Caerffili yn 2016.
Y fam yw Dwynwen — y Ddraig borffor hardd sy’n sgleinio yn yr haul ac yn hanu o Gaernarfon.
A’r ddwy ddraig fach — Dylan a Cariad — yw cywion hoffus ond HYNOD ddireidus dwy Ddraig fawr Cadw.
Wyt ti’n ddigon dewr i wynebu llond ogof o Ddreigiau Cymreig go iawn?
Mae Ffau’r Dreigiau yn cynnig cartref newydd i’r teulu o Ddreigiau Cymreig i roi cyfle i ymwelwyr brofi chwedl fawr y bwystfilod, gydag arddangosfa glyweledol gyfareddol a goleuadau dramatig, mwg a sŵn ysgyrnygu.
Felly wyt ti’n barod am antur hanesyddol fwyaf Cymru? Cer i Gastell Caerffili i gael diwrnod bythgofiadwy o chwedloniaeth a hud a lledrith.
Cymerodd hi dri mis i dîm o fyfyrwyr o Brifysgol De Cymru sy’n astudio Animeiddio Cyfrifiadurol i greu’r ffilm anhygoel hon a wnaed trwy ddefnyddio technoleg rhaglennu 3-D. Dyluniwyd corff y Ddraig (gan gynnwys y sgerbwd!) gan y myfyrwyr. Fe osodwyd y Ddraig wedyn o flaen pedwar cefndir gwahanol o gestyll eiconig Cymru.