Hanes Heddiw yn safleoedd hanesyddol Cymru…
Mae muriau safleoedd hanesyddol Cymru yn gwarchod canrifoedd lawer o atgofion.
Ac wrth i’n byd modern ymestyn, mae ein cestyll, ein habatai a’n cartrefi hanesyddol wedi sefyll yn eu hunfan — yn dal i’n hatgoffa o ogoneddau’r gorffennol.
Uchelgais Cadw yw dod â threftadaeth Cymru i’r 21ain Ganrif. A pha well ffordd o wneud hynny na thrwy gynnig llu o resymau cyffrous i ymweld â safle hanesyddol?
Yn wir, eleni byddwn yn rhoi gwedd fodern ar hanes Cymru — bydd cyfleoedd i’n hymwelwyr fwynhau popeth o Beintio a Phrosecco mewn castell Fictorianaidd i Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn abaty Sistersaidd a hyd yn oed weithdai barddoniaeth mewn castell canoloesol.
Felly, ydych chi’n barod i brofi hanes Cymru mewn ffordd newydd?
Dewch â’ch camera ac ymunwch â ni wrth i ni ddod â threftadaeth Cymru’n fyw yn ystod Blwyddyn Darganfod Cymru 2019.