Skip to main content

Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi’n fuan ar sgaffaldiau’n ymddangos ar Dŵr y Ffynnon ein castell tylwyth teg yn y coed, er mwyn galluogi gwaith i ddiogelu toeau a simneiau rhag y tywydd, yn ogystal â gwaith ail-bwyntio helaeth ar waliau cerrig.

Yn ystod y gwaith cadwraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i gadw’r castell ar agor cymaint â phosibl, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd mynediad cyhoeddus parhaus i’r tirnodau Cymreig eiconig hyn.

Ni fydd y cam hwn o’r gwaith yn 2024 yn effeithio ar oriau agor a bydd Castell Coch yn parhau i fod ar agor ond edrychwch ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Bydd y gwaith cadwraeth ar Dŵr y Ffynnon yn dechrau yng ngwanwyn 2024. Mae Tŵr y Ffynnon, i’r dde o brif fynedfa’r porthdy, wedi’i adeiladu o wal gerrig fewnol ac allanol gyda chraidd rwbel. Dros y blynyddoedd roedd y craidd rwbel hwn yn ddirlawn â dŵr a seliwyd hyn trwy ddefnyddio morter sment nad yw’n caniatáu i leithder neu wlybaniaeth dreiddio drwyddo i bwyntio'r garreg.

O ganlyniad, mae'r waliau mewnol yn gyffredinol yn llaith a hyd yn oed yn wlyb mewn mannau, gan arwain at amodau llaith iawn ar y waliau mewnol, sy'n niweidiol i’r adeilad.

Yng ngwanwyn 2024, bydd sgaffaldiau’n cael eu gosod a bydd y morter sment rhwng y cerrig adeiladu’n cael ei dynnu i ganiatáu i graidd mewnol y waliau sychu’n araf dros y 12 mis nesaf. Unwaith y byddwn yn fodlon bod y craidd wedi sychu’n ddigonol, bydd y waliau’n cael eu hailbwyntio mewn morter calch i alluogi’r castell i anadlu.

Mae’r cam hwn o’r gwaith yn rhan o ymgyrch hirdymor i gael gwared â chymaint o leithder â phosibl o’r gwaith maen a’r waliau mewnol, i alluogi cadwraeth hirdymor tu mewn ysblennydd hynod arwyddocaol Castell Coch.

Mae’n dilyn cyfnod llwyddiannus cynharach a gwblhawyd yn 2019 i atgyweirio to a simneiau Tŵr y Gorthwr (i’r chwith o’r fynedfa) a gosod system wresogi newydd.

Bydd gwaith pellach yn dilyn i atgyweirio Tŵr y Gegin ac i ddechrau ar waith cadwraeth manwl ar yr addurno mewnol.

Rydyn ni’n gobeithio y byddwch yn parhau i fwynhau archwilio’r castell, gan ddysgu am ei hanes a’n hymrwymiad parhaus i gynnal a chadw ystafelloedd mewnol y weledigaeth Fictoraidd Gothig hon; a chofiwch ofyn i'n timau ar y safle am ragor o wybodaeth yn ystod eich ymweliad.

Bydd y gwaith cadwraeth yn dechrau fis Ebrill 2024 am 24 mis.

Mae eich cefnogaeth yn cyfrannu at warchod yr henebion gwych hyn ac yn sicrhau bod ein treftadaeth yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

I gael diweddariadau rheolaidd ac am gyfleoedd i weld y gwaith cadwraeth, ewch i’n gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl newyddion Cadw.

Ymaelodwch a mwynhewch fynediad diderfyn i dros 130 o lefydd hanesyddol yng Nghymru – Ymunwch â Cadw.

Ymunwch a Cadw heddiw