Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Eglwys y Santes Fair a Sant Nicholas yn adeilad rhestredig Gradd 1 ar Stryd yr Eglwys, Biwmares. Mae'r Eglwys yn dyddio o tua 1330 a dyma'r ail adeilad hynaf yn y dref ar ôl Castell Biwmares. Mae ei phensaernïaeth hardd a’i llu o nodweddion diddorol yn mynd yn ôl tros Wyth Canrif o Dreftadaeth Gristnogol a chymdeithasol. Mae taflenni gwybodaeth ar gael ac mae ein croesawyr yn aml wrth law i'ch helpu i ddarganfod straeon sy'n gysylltiedig ag Arch Garreg y Dywysoges Siwan, y Bedd Alabaster, trychineb llongau Castell Rothsay, Tabora Ddu, y Misericords, a sawl Ffenestr Gwydr Lliw, Placiau Wal a Chofebau trawiadol. Oedwch i gynnig Gweddi a chynnau cannwyll yng Nghapel y Forwyn gan gofio bod pobl wedi gwneud hynny ers 700 mlynedd yn y lle sanctaidd hynafol hwn. Yna camwch allan i orffwys am ychydig yn harddwch tawel ein Gardd Heddychlon.

Mae Eglwys y Santes Fair wedi'i lleoli ar Stryd yr Eglwys, Biwmares. LL58 8AA Cyfeirnod Grid: SH 604 761

O Stryd y Castell ewch ar hyd Stryd yr Eglwys (wedi'i leoli ar gornel siop hufen iâ Red Boat). Mae Eglwys y Santes Fair tua 50 llath ymlaen ar y chwith. Sylwch fod parcio yn gyfyngedig iawn ym Miwmares. Argymhellir defnyddio'r meysydd parcio cyhoeddus. Fodd bynnag, mae rhywfaint o barcio cyfyngedig i'r anabl ar gael yn yr eglwys ei hun wrth yrru trwy'r gatiau cul sy'n arwain o Stryd yr Eglwys. Mae'r porth deheuol yn caniatáu mynediad i'r anabl gyda defnydd rampiau cludadwy.

 


Prisiau

Am Ddim
Categori Price

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 12 Med 2026
10:00 - 17:00
Sul 13 Med 2026
08:00 - 18:00