Skip to main content

Ymunwch â thaith o amgylch Cae'r Gors gyda'n tywysydd arbenigol. Dewch i weld cartref yr awdures Kate Roberts a dysgu am hanes anhygoel yr adeilad hwn ar ei newydd wedd.

Cae'r Gors oedd cartref yr awdures Kate Roberts pan oedd hi'n blentyn. Cafodd ei geni a'i magu yn Rhosgadfan, pentref ger Dyffryn Nantlle, Caernarfon ac Eryri, ar droad yr ugeinfed ganrif, pan oedd y diwydiant llechi yn ei anterth.

Nid oes angen fawr o ddychymyg i ddyfalu sut le oedd Cae'r Gors, cartref Kate Roberts yn blentyn, ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae bywyd gwledig yng nghymuned chwarela Rhosgadfan yn ymddangos yn ei gwaith yn aml. Ond ers mis Ebrill 2007, pan gafodd y tŷ ei adnewyddu a'r ganolfan treftadaeth ei hadeiladu, nid oes angen dychmygu; mae bellach yn bosibl profi amodau byw'r cyfnod, dysgu am arferion a thraddodiadau ac edrych ar offer y cartref a ddefnyddid ar y pryd.

Agor Cae'r Gors yn ystod dau benwythnos ac arbenigwr lleol  yn arwain y cyhoedd o gwmpas a dangos y ffilm ddwyieithog am fywyd a gwaith Kate Roberts.

Cae'r Gors, Rhosgadfan, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7EY.

Wrth ddod o gyfeiriad Caernarfon, trowch i'r dde yn union ar ôl dod i mewn i Rhosgadfan (mae arwyddion brown i Gae'r Gors). Mae'r safle ar y dde a pharcio ar y chwith.

Teithiau am 11am a 2pm 

Archebwch docynnau ar-lein ymlaen llaw (ni fydd tocynnau ar gael i'w prynu wrth gyrraedd).


Prisiau

Tocynnau
Categori Price
Oedolion
£10.00
Aelod - Ymunwch rŵan
£7.00

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 12 Mai 2024
11:00 - 14:00
Sul 09 Meh 2024
11:00 - 14:00
Sad 13 Gorff 2024
11:00 - 14:00
Sad 17 Awst 2024
11:00 - 14:00
Archebwch
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Cae'r Gors