Skip to main content

Mae Calan Gaeaf ar gyfer oedolion hefyd!

Am noson heb y rhai bach, teithiwch gyda ni o gwmpas Castell Coch am noson o straeon ysbryd a straeon hanesyddol ar 26 a 31 Hydref. Ymunwch â ni am 7pm neu 9pm i fynd am dro o amgylch castell ffantasi teulu’r Bute.

Sylwer - bydd y teithiau hyn yn digwydd ym mhob tywydd. Ac oherwydd ein tyrau troellog Gothig, yn llawn grisiau. Bydd y tir yn anwastad mewn mannau – felly mae’n bwysig eich bod yn gwisgo esgidiau a dillad priodol. 

Dewch â thortsh hefyd, oherwydd byddwn yn crwydro rhai mannau tywyll iawn o amgylch y castell.

Oedolion yn unig, rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.


Prisiau

£20

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 26 Hyd 2024
19:00 - 20:30
21:00 - 22:30
Iau 31 Hyd 2024
20:00 - 21:30
Archebwch
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Coch