Skip to main content

Arolwg

Anheddiad Oes Haearn mewn safle rhyfeddol ar gopa mynydd  

Yn eistedd ar gopa Mynydd y Twr, a golygfeydd helaeth i bob cyfeiriad, hawdd yw gweld pam y dewiswyd y llecyn hwn gan ein cyndadau yn yr Oes Haearn. Mae’r rhagfuriau’n dal i sefyll 10 troedfedd /3m o uchder a 14 troedfedd /4m o drwch mewn mannau, yn uno â thir creigiog y mynydd i greu’r hyn y mae’n rhaid y bu’n amddiffynfa fawreddog. Mae olion tramwyfa fewnol wreiddiol y muriau a’r fynedfa simneiog, gul yn y golwg hyd heddiw, wedi’u gosod mewn rhigol greigiog ddofn. Er bod y lloc anferth yn cylchu ardal o ryw 17 erw / 6.9ha, yr unig strwythur a ganfuwyd y tu mewn iddo yw adfail gorsaf rybuddio a gwylfa Rufeinig ddiweddaraf, a oedd efallai’n gysylltiedig â’r gaer arfordirol gerllaw yng Nghaergybi.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
Ar Fynydd Twr, 13/4m (2.8km) i’r Gor. o Gaergybi
Rheilffordd
Caergybi 2m (3.2km)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.