Skip to main content

Arolwg

Cymuned ffermio o’r gorffennol  

Yr hyn a welwn o’n blaenau yw olion anheddiad amaethyddol gweddol fawr a ddefnyddiwyd am lawer cenhedlaeth. Mae tuag 20 adeilad wedi goroesi, gan amcangyfrif bod 50 ohonynt yn wreiddiol, a’r rheini gan mwyaf ar ffurf sylfeini cytiau crwn. Hawdd yw dychmygu sut olwg fyddai ar y cytiau hyn o gerrig, dan eu toeau gwellt conigol. I helpu i greu darlun cliriach byth o’r gorffennol, mae gan rai ohonynt hyd yn oed olion rhaniadau mewnol, ardaloedd storio a dodrefn fel meinciau a basnau carreg.

Pa mor hen yw’r rhain? Credwyd yn wreiddiol eu bod yn dyddio o adeg meddiannaeth y Rhufeiniaid ar Gymru (canfuwyd darnau arian a chrochenwaith Rhufeinig yma), ond maent yn llawer hŷn, a dweud y gwir, gan ddyddio’n ôl i’r adeg gynhanes.

Edrychwch ar ein hadluniad 3600 o’r ffordd y byddai pobl efallai’n trin y tir. A mantais arall i’r ymwelwyr, mae yma safle ysblennydd ar ochr mynydd a golygfeydd pellgyrhaeddol o’r môr. 


Amseroedd agor

Bob dydd 10am - 4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
3m (4.8km) i’r Gor. o Gaergybi
Rheilffordd
Caergybi 3.2m (5.2km)
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 (5km/3.1m).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50