Hen Dŷ Carswell
Hysbysiad ymwelwyr
Oherwydd pryderon ynghylch lledaeniad pellach y Coronafeirws a lles ein hymwelwyr, mae'n ddrwg gennym adrodd y bydd rhai henebion a meysydd parcio Cadw heb eu staffio yn aros ar gau nes bydd rhybudd pellach.
Arolwg
Drwy dwll clo cartref canoloesol syml
Hawdd yw adnabod Tŷ Canoloesol Carswell oherwydd ei simnai allanol dal, a hwn yw un o’r unig adeiladau o’u math sy’n dal i sefyll yn y rhan hon o Gymru. Yn ôl pob tebyg, fe’i hadeiladwyd yn y 15fed ganrif, a’r tŷ’n rhan o’r ystâd a oedd yn perthyn i Iarll Penfro. Byddai’n gartref i denantiaid o ffermwyr a enillai fywoliaeth fechan o’r tir. Tŷ syml a diaddurn ydyw, sy’n rhoi cipolwg inni ar fywyd canoloesol pob dydd, i ffwrdd o’r cestyll crand a gysylltir yn aml â’r cyfnod.