Skip to main content

Arolwg

Triawd o feddrodau

Er eu bod yn agos i’w gilydd, codwyd y triawd hwn o feddrodau Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) mewn cyfnodau cwbl wahanol. Strwythur syml megis blwch yw’r siambr gynharaf ym mhen gorllewinol y safle, wedi’i amgylchynu gan garnedd o glogfeini. Mae’r siambr yn y canol (o ran ei hoedran a’i lleoliad) wedi cwympo bellach, a dim ond ambell un o’i meini’n dal i sefyll. Ym mhen dwyreiniol y safle, mae’r trydydd beddrod a’r mwyaf diweddar bron yn gwbl gyflawn, a’i feini capan gwreiddiol a dau borthfaen aruthrol wrth ei fynedfa.

Awgryma cloddiadau fod y safle wedi’i ddefnyddio am gynifer â 1,500 o flynyddoedd, gan arddangos mor arwyddocaol y bu’r henebion hyn i’n cyndadau cynnar, mae’n rhaid.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
1 1/2m (2.4km) i’r De De Ddwy. o Gaergybi, oddi ar y B4545
Rheilffordd
Caergybi 11/2m (2.4km)
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 (1.9km/1.2mls)

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50