Skip to main content

Gofynnir i’r rhai sy’n hedfan dronau dros henebion cofrestredig Cadw i sicrhau eu bod yn dilyn Cod Dronau y DU pan fyddant yn eu hedfan.

Rhaid i’r rhai sy’n hedfan dronau sydd naill ai â chamera arnynt neu sy’n pwyso mwy na 250g gael trwydded gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), a rhaid i’r drôn fod ag ID hedfan y peilot wedi’i farcio arno. Nid oes angen trwyddedu dronau sy’n pwyso llai na 250g.

Dylai’r lluniau o henebion Cadw a dynnir gan ddronau hamdden fod ar gyfer defnydd personol yn unig, ac ni ddylid cyhoeddi’r delweddau ar unrhyw lwyfannau trydydd parti cyhoeddus. Os oes bwriad i rannu delweddau o'r fath ar lwyfannau o'r fath, neu i’w defnyddio i greu elw neu gyhoeddusrwydd, dylid dilyn y paragraff ar ddefnydd masnachol.

Er y gall y rhai sy'n cadw at God Dronau y DU hedfan dronau dros henebion Cadw, ac eithrio lle mae gan y CAA barthau dim dronau, ni chaiff dronau godi na glanio ar dir preifat heb ganiatâd y tirfeddiannwr. Dylid nodi nad yw Cadw, ar hyn o bryd, yn caniatáu i ddronau hamdden godi na glanio ar eu heiddo. Ar hyn o bryd, mae gan y CAA sawl parth dim dronau dros yr henebion Cadw canlynol, a hynny oherwydd eu bod yn agos at feysydd awyr, rheilffyrdd a pheryglon eraill sy’n cael eu hystyried yn rhai risg uchel gan y CAA.

            Castell Conwy

            Castell Cydweli 

            Beddrod Siambr Tŷ Newydd

            Din Dryfol

            Beddrod Siambr Parc le Breos

Pan ystyrir bod dron wedi achosi niwsans, trosedd dreftadaeth, neu wedi peryglu diogelwch, bydd y digwyddiad yn cael ei adrodd i’r heddlu, i’r CAA, neu i Dîm Diogelwch Canolog Llywodraeth Cymru, fel sy’n briodol. 

Mae enghreifftiau'n cynnwys:

            Pasio dros leoliad yn isel, peryglus.

            Pan Amheuir Rhagchwiliad Agos o Darged  – (Gallai pasio dro ar ôl tro ar wahanol uchderau fod yn arwydd o hyn).

            Taro adeiladwaith hanesyddol yr heneb gofrestredig (Mae hyn yn Drosedd Dreftadaeth).

            Taro unigolyn, da byw, neu aderyn neu anifail sy'n gweithio ar y safle. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad diogelwch, a byddai’r mater yn cael ei drosglwyddo i'r heddlu neu i’r awdurdodau perthnasol eraill i ystyried camau pellach.

Llys a Chastell Tretwr / Tretower Court and Castle aerial view

Dylai’r rhai sy’n hedfan dronau fod yn ystyriol o ymwelwyr ar y safleoedd, gan gofio y gall nifer ohonynt fod yno i fwynhau heddwch a thawelwch y safle, yn enwedig yn rhai o’r henebion mwy anghysbell lle nad oes staff yn gweithio.

Pan Amheuir Trosedd Dreftadaeth

Os bydd drôn yn cwympo i adeiladwaith hanesyddol yr heneb gofrestredig, a phan amheuir bod yr heneb neu ei leoliad wedi'i ddifrodi, gellid ystyried hynny yn drosedd treftadaeth. Felly, gall staff Cadw benderfynu cadw'r drôn a'i drosglwyddo i'r heddlu os bernir bod hynny'n angenrheidiol, neu nodi ID hedfan y peilot ac ID y drôn oddi ar y drôn a gwneud cwyn Trosedd Treftadaeth ffurfiol i'r heddlu a rhoi gwybod am y digwyddiad i'r CAA fel yr Awdurdod Trwyddedu Dronau.

Defnydd masnachol

Rhaid i ddronau sy'n cael eu defnyddio at ddibenion masnachol a ffilmio wneud cais am ganiatâd. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cynnal y mathau o ddeunydd ffilm sydd eu hangen, gyda diogelwch peilot ac ymwelwyr yn hollbwysig.

Efallai y bydd angen cau safleoedd yn rhannol neu’n llwyr ar gyfer hediadau masnachol. Codir costau am unrhyw newid i oriau agor a chau'r safle; bydd hyn yn cael ei gynnwys o fewn y ffioedd ar gyfer ffilmio masnachol a defnyddio delweddau Cadw ac ati. 

Bydd angen i bob peilot masnachol gyflwyno eu hyswiriant atebolrwydd cyhoeddus (isafswm o £5 miliwn), datganiad dull ac asesiadau risg cefnogol. Bydd y rhain yn cael eu prosesu a'u gwirio cyn y gellir awdurdodi hediadau, felly mae angen cyflwyno'r rhain yn gynnar. Ar gyfer cau yn rhannol, rhaid i beilotiaid fod yn hawdd eu hadnabod a sicrhau eu bod yn gweithio o fewn maes gwaith diogel penodol.

Arolygon Drôn

Yn unol â defnydd masnachol, bydd angen i’r broses o awdurdodi arolygon drôn ddilyn yr un broses gymeradwyo. Fel arfer, bydd angen cau safleoedd. Bydd yr holl asesiadau risg a datganiadau dull yn cael eu gwirio'n drylwyr cyn eu hawdurdodi.

Rhaid i bob peilot fod yn hawdd eu hadnabod, gan eu gwahanu oddi wrth aelodau'r cyhoedd a gweithio o fewn maes gwaith diogel bob amser.