Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Gall ymwelwyr i safleoedd Cadw archwilio cannoedd o flynyddoedd o hanes Cymru y Pasg hwn (8-25 Ebrill 2022), wrth i gestyll, abatai a thai hanesyddol ledled y wlad gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau sy’n ystyriol o deuluoedd.

O gwrdd â marchogion a sgweieriaid yng Nghastell Biwmares i ddarganfod bwydlen ganoloesol yng Nghastell Cas-gwent, dyma 9 o’r ffyrdd gorau y gall teuluoedd brofi golygfeydd, synau ac arogleuon Cymru’r gorffennol y Pasg hwn. I weld lein-yp llawn Cadw o ddigwyddiadau tymhorol, ewch i cadw.llyw.cymru.

I’r rhai sydd am fanteisio i’r eithaf ar y digwyddiadau hyn, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i 100 a mwy o safleoedd hanesyddol ledled Cymru.

1Camwch yn ôl i Gymru’r Oesoedd Canol yng Nghastell Biwmares

Dros benwythnos y Pasg, gall ymwelwyr brofi bywyd yn yr Oesoedd Canol yng Nghastell Biwmares – gydag ymddangosiadau gan farchogion rhyfelgar, perfformwyr syrcas, cerddorion canoloesol, hebogwyr, a llawer mwy. 

Bydd Helfa Wyau Pasg ar y ddau ddiwrnod, a brwydr fawr rhwng Gerard de Rhodes a’r Capten Nicholas Horton – gyda’u dynion a’u saethwyr. Bydd plant 13 oed ac iau yn cael eu gwahodd i ymuno â rhengoedd y Capten i’w helpu i drechu Syr Gerard a’i farchogion.

Hwyl y Pasg yng Nghastell Biwmares

Dydd Sul 17–Dydd Llun 18 Ebrill: 10am–5pm

Castell Biwmares/Beaumaris Castle view of the south west corner of the castle

2. Datgelwch hanes hynod gyfoethog Castell Cas-gwent

Gwahoddir teuluoedd i ddarganfod beth oedd trigolion Castell Cas-gwent yn yr Oesoedd Canol yn ei goginio a’i fwyta – wrth i’r safle baratoi ar gyfer ymwelydd nobl pwysig iawn. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael eu drafftio i helpu stiwardiaid y castell i gasglu cynhwysion a gosod y bwrdd mawreddog cyn y wledd.

At hynny, bydd y safle 900 mlwydd oed yn cynnal gêm o Fingo’r Pasg bob dydd o 9-24 Ebrill, gyda theuluoedd yn cael eu gwahodd i chwilio’r castell cyfan am gliwiau.

Beth am Ddarganfod… Bwyd Canoloesol yng Nghastell Cas-gwent

Dydd Mercher 13 Ebrill 10am–4pm

Castell Cas-Gwent - Chepstow Castle entrance doors

3. Cwrdd â’r Merswyr yn Llys a Chastell Tretŵr

Bydd y rhai sy’n bresennol yn y digwyddiad hwn yn cael profi diwrnod ym mywyd yr 17eg ganrif a bydd y Marcher Stuarts wrth law i ddysgu ymwelwyr modern am bopeth o arferion wrth y bwrdd i’r ffyrdd gorau o gadw’ch powdwr yn sych. Bydd teuluoedd hefyd yn gallu dilyn Llwybr Pasg Rhys y Gwningen o amgylch tir y faenor gaerog ganoloesol am gyfle i ennill sypreis siocled.

Cwrdd â’r Merswyr yn Llys a Chastell Tretŵr

Dydd Sadwrn 16–Dydd Llun 18 Ebrill 10:30am–4:30pm

Digwyddiadau/Events

4. Gwyliwch sioe ffasiwn ganoloesol yng Nghastell Rhaglan

Bydd penwythnos o anrhefn yn dod i Gastell Rhaglan y Pasg hwn gyda’r grŵp hanes byw, Historia Normannis, a’r hebogwyr arobryn, Wings of Wales.

O arddangosiadau saethyddiaeth ac arfau i sioeau ffasiwn canoloesol ac arddangosfeydd hebogiaeth, bydd y digwyddiad llawn dop hwn yn cynnig diwrnod bythgofiadwy o hwyl i’r teulu cyfan.

Bywyd yn y Gororau yng Nghastell Rhaglan

Dydd Sadwrn 16–dydd Llun 18 Ebrill 10am–4pm

Castell Rhaglan/Raglan Castle

5. Hedfanwch gyda hebogiaid ar Benwythnos Canoloesol Castell Dinbych

Gwahoddir teuluoedd i neidio i Gastell Dinbych y Pasg hwn wrth i Hwyl y Pasg blynyddol y safle ddychwelyd ar gyfer 2022.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl i’r teulu, Llwybr y Pasg a hyd yn oed arddangosfeydd ymladd canoloesol – yng nghwmni’r grŵp hanes byw, Teulu’r Tywysogion.

Hwyl y Pasg yng Nghastell Dinbych

Dydd Sadwrn 16–dydd Sul 17 Ebrill 10am–4pm

Castell Dinbych/Denbigh Castle

6. Gwyliwch fagnelau’n cael eu tanio yng Nghastell Caernarfon

Bydd aelodau o Saethwyr y Ddraig Goch a Garsiwn y Ddraig Goch yn cyfarch ymwelwyr yng Nghastell Caernarfon dros Benwythnos y Pasg – gan eu gwahodd i’w gwylio’n ymarfer saethyddiaeth, profi eu magnelau, ac arddangos eu sgiliau hebogiaeth.

Gall gwesteion iau hefyd ymuno â Saethwyr y Ddraig Goch ar helfa wyau o amgylch tiroedd y castell. 

Saethwyr a Garsiwn y Ddraig Goch yng Nghastell Caernarfon

Dydd Sadwrn 16–dydd Sul 17 Ebrill 11am–3pm

Castell Caernarfon

7. Cwrdd â’r Brawd Thomas yn Abaty Tyndyrn

Fel selerwr Abaty Tyndyrn, mae’r Brawd Thomas yn gwybod popeth sydd i’w wybod am fywyd mynachaidd – a bydd yn rhannu’r cyfrinachau i gyd gydag ymwelwyr â’r digwyddiad unigryw hwn. Cewch ddysgu am bopeth o ddyletswyddau’r mynachod i’w hylendid a’u harferion bwyta.

Y Brawd Thomas y Selerwr yn Abaty Tyndyrn

Dydd Sadwrn 09 Ebrill 10am–4pm

Digwyddiadau/Events

​​​​​​​8. Ymunwch â’r Ysgol Wirion i Farchogion yng Nghastell Cydweli

Visitors to this larger-than-life event can have a go at everything from juggling to diabolo and plate spinning — courtesy of Juggling Jim. Following this, silly knight school students will be challenged to complete three fun challenges to become a knight.

Jim y Jyglwr yng Nghastell Cydweli

Dydd Mawrth 19–dydd Mercher 20 Ebrill 11am–4pm

Castell Cydweli/Kidwelly Castle

​​​​​​9. Stori a Chân i ddysgwyr Cymraeg yng Nghastell Harlech

Bydd Castell Harlech yn dod yn fyw gyda chaneuon traddodiadol a straeon am hanes Cymru ar 20 a 21 Ebrill – digwyddiad sydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli dysgwyr Cymraeg.

O dan arweiniad Fiona Collins, Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2019, a’r adroddwraig straeon a’r delynores, Mair Tomos Ifans, bydd y digwyddiad yn caniatáu i ddysgwyr o bob lefel wella eu sgiliau trwy ganeuon, rhigymau ac ymadroddion.

Bydd Castell Harlech hefyd yn cynnig profiad hanes canoloesol byw dros Benwythnos y Pasg – gyda Marchogion Ardudwy yn ymddangos o 16-18 Ebrill.

Stori a chân i ddysgwyr Cymraeg yng Nghastell Harlech

Dydd Mercher 20–Dydd Iau 21 Ebrill 11am–4pm

Castell Harlech