Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Gwener 11 Rhagfyr bydd pob atyniad awyr agored yn cau, bydd holl safleoedd Cadw â staff a heb staff, ar gau o ddydd Llun 14 Rhagfyr am gyfnod amhenodol.

I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i:

llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru

Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am ymweld â rhai o'n safleoedd mwyaf eiconig trwy ein teithiau rhithwir Drysau Agored Ar-lein!

Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw ffôn symudol neu gyfrifiadur - os oes gennych set pen VR gallwch chi ymgolli'n llwyr mewn antur o'ch dewis.

Dewiswch o blith y pecynnau canlynol i ddarganfod mwy am ein profiadau rhithwir ar thema:

Beddrodau Neolithig

Cestyll y De

Abatai a Gweithfeydd Haearn

Cestyll y Gogledd

Rydym wedi llunio rhestr o weithgareddau i’w mwynhau gartref, wedi’u hysbrydoli gan dreftadaeth.
Mae llond gwlad o erthyglau, casgliadau a theithiau rhithwir ar gael ar-lein.

Diddordeb yn yr asedau hanesyddol sy’n cael eu gwarchod yng Nghymru? Gallwch ddarganfod ein henebion, adeiladau a thirweddau o bwysigrwydd cenedlaethol trwy ddefnyddio gwasanaeth Cof Cymru Cadw.

Ddysgwch fwy am yr archaeoleg a’r hanes ar garreg eich drws ac mewn rhannau eraill o Gymru trwy ddefnyddio gwasanaeth cofnodion amgylchedd hanesyddol digidol Archwilio.

Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru a Coflein, catalog ar-lein Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n cynnwys gwybodaeth am dreftadaeth archaeoleg, adeiladau, diwydiant a’r môr.

Defnyddiwch Casgliad y Werin Cymru i ddarganfod hanes ac archaeoleg hynod ddiddorol Cymru. Mae’r adnodd ar-lein hwn yn cynnwys miloedd o eitemau wedi’u lanlwytho gan unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau treftadaeth ledled Cymru. 

Neu fe allwch fynd cam ymhellach a dechrau lanlwytho’ch atgofion eich hun!