Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Wedi ei gyhoeddi

Fel rhan o ddathliadau Dydd Santes Dwynwen, mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn cynnig anrheg unigryw i gyplau sy'n dyweddïo yn unrhyw un o'i leoliadau hanesyddol ar y diwrnod arbennig hwn. 

Bydd cyplau sy'n gallu profi eu bod nhw wedi dyweddïo yn un o safleoedd Cadw ddydd Sadwrn 25 Ionawr 2025, yn derbyn aelodaeth rhad ac am ddim o Cadw am flwyddyn, gan roi mynediad diderfyn iddynt i 130 a mwy o henebion hanesyddol ein gwlad.

Mae Dydd Santes Dwynwen yn coffau nawddsant y cariadon o'r bumed ganrif. Mae’n ddiwrnod hynod boblogaidd i anfon cardiau, anrhegion, a llwyau caru traddodiadol fel symbolau o ymroddiad a gofal. Mae stori Dwynwen am gariad a gobaith anhunanol yn parhau'n rhan annwyl o’n treftadaeth ddiwylliannol hyd heddiw.

Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:

“Er bod Santes Dwynwen yn perthyn i fyd chwedloniaeth, dyma un o straeon gwerthfawr Cymru o hyd. Mae'n rhan enfawr o ddiwylliant hanesyddol ein gwlad, ac mae traddodiadau i'w dathlu wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth. 

“Rydym yn falch o gynnig aelodaeth am ddim i gyplau sy'n dewis ein henebion hanesyddol fel eu lleoliad dyweddïo, gan ganiatáu iddyn nhw barhau â'u siwrnai serchus drwy hanes cyfoethog Cymru gyda'i gilydd.”

Hefyd, mae Cadw yn cynnig cyfle i gyplau gynnal priodasau yn rhai o leoliadau mwyaf eiconig a hanesyddol Cymru, mewn lleoliad ysblennydd a diwylliannol-gyfoethog. Amcangyfrifir bod dros 3,000 o briodasau wedi'u cynnal yn henebion Cadw ers ei sefydlu ym 1984. 

Ar hyn o bryd, mae cyplau'n gallu priodi yn:

  • Plas Mawr – tŷ tref mwyaf cain Prydain o oes Elisabeth, yn nhref Conwy
  • Llys a Chastell Tretŵr  – preswylfa ganoloesol hanesyddol yng nghefn gwlad Sir Frycheiniog 

Gallwch briodi o fewn muriau hudolus Castell Coch Tongwynlais hefyd, yn ogystal â chastell canoloesol mwyaf grymus y wlad, Castell Caerffili, er bod y ddau ar gau dros dro oherwydd gwaith cadwraeth ar raddfa fawr.

Mae bendithion a/neu luniau priodas hefyd ar gael yng nghestyll, abatai a chapeli trawiadol Cadw o Fôn i Fynwy – y cefndir perffaith ar gyfer diwrnod i’w gofio. 

Y llynedd, dathlodd Cadw ei ben-blwydd yn 40 oed, carreg filltir arwyddocaol wrth barhau â'i genhadaeth i ofalu am leoedd hanesyddol Cymru, gan ysbrydoli cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol i fwynhau hanes cyfoethog ein cenedl.

Os byddwch chi'n dyweddïo yn un o leoliadau Cadw y penwythnos hwn, gallwch rannu llun o’ch dyweddïad, on ogystal â’r dyddiad, drwy gysylltu â cadwmarketing@gov.wales i hawlio'ch aelodaeth.