Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Abaty Ystrad Fflur
Wedi ei gyhoeddi

Mae Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, wedi ymuno ag Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur mewn trefniant cydweithredol i ddiogelu a gwella'r safle gwerthfawr hwn o ran treftadaeth Cymru, gyda phobl leol bellach yn rheoli'r safle a'r ganolfan ymwelwyr.

Mae Ystrad Fflur, neu Strata Florida (y Lladin am ‘Fro’r Blodau’) yn abaty canoloesol mawreddog yng Ngheredigion lle mae cenedlaethau o dywysogion Cymru wedi'u claddu, ac mae'r abaty Sistersaidd wedi sefyll ar lannau afon Teifi ers 1184.

Bydd staff a gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, sydd eisoes yn gweithio ar adfer ffermdy Mynachlog Fawr ac adeiladau fferm gerllaw, yn rheoli'r ardal fel rhan o gynllun peilot tan fis Hydref.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnal arddangosfa rhad ac am ddim drws nesaf i'r abaty, sy'n adrodd hanes y ffermdy a'r hanes lleol ac amaethyddol, drwy amrywiaeth o wrthrychau o'r ffermdy, o droell nyddu i gloc mawr ac offer hanesyddol.

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, ymwelodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, â'r safle [dydd Llun 2] i ddiolch i'r Ymddiriedolaeth, ei staff a'i gwirfoddolwyr angerddol am eu hymrwymiad i sicrhau bod yr abaty yn parhau i fod yn agored ac yn hygyrch.

Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 30% o bobl yng Nghymru wedi gwirfoddoli, gyda Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £4.6 miliwn mewn cyllid grant dros y 3 blynedd diwethaf drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae hyn wedi arwain at bron i 2,800 o wirfoddolwyr newydd rhwng 11 a 25 oed a thros 6,300 o wirfoddolwyr newydd 25 oed neu’n hŷn – gyda chyfanswm cyfunol o bron i 420,000 o oriau o wirfoddoli wedi digwydd.

Dywedodd y Gweinidog:

Fel llawer o atyniadau, caeodd canolfan ymwelwyr Ystrad Fflur yn ystod pandemig Covid ond mae bellach wedi cael y cyfle i ailagor, gyda staff a gwirfoddolwyr ymroddedig Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn cymryd yr awenau.

Mae gwirfoddoli yn hanfodol i les ein cymunedau lleol; nid yn unig mae'n dda i'r rhai sy'n rhoi, ond hefyd i'r rhai sy'n elwa. Mae eu hymrwymiad, ynghyd â staff yr Ymddiriedolaeth, wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod y safle arwyddocaol hwn o dreftadaeth Cymru ar gael i ymwelwyr unwaith eto. Diolch yn fawr, bawb.

Er mwyn helpu i wneud treftadaeth Cymru yn fwy hygyrch, mae'r bartneriaeth yn treialu mynediad am ddim i'r safle cyfan, gydag ymwelwyr yn cael eu hannog i gynnig rhoddion gwirfoddol i gefnogi gwaith cadwraeth a gweithrediad parhaus yr heneb hon o arwyddocâd cenedlaethol.

Dywedodd Mick Taylor o Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur:

Rwy'n falch iawn bod yr Ymddiriedolaeth wedi partneru â Cadw er lles Cymru a thu hwnt.

Mae Ystrad Fflur yn ganolog i hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, sy'n cael ei gwerthfawrogi'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Gan adeiladu ar ei gwaddol fel canolfan ysbrydol, wleidyddol a llenyddol gyda gwersi amgylcheddol i'w haddysgu, rydym yn gweithio i drawsnewid y safle ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd y safle yn cael ei staffio bob dydd rhwng 10am a 4pm tan 31 Hydref. I gael rhagor o wybodaeth am Ystrad Fflur a safleoedd hanesyddol eraill ledled Cymru, chwiliwch am Cadw.