Cloddio Caerllion Rhufeinig: Gwaith cloddio Maes y Priordy 2007 i 2010 Dydd Gwener 16 Ionawr 2026 am 7.30YH Eglwys Saint Cadog, Stryd Fawr, Caerleon Casnewydd NP18 1AZ
Fe wnaeth gwaith cloddio sylweddol ym Maes y Priordy rhwng 2007 a 2010 gynnig tystiolaeth newydd arloesol am hanes cyfoethog Rhufeinig, a hanes ‘ôl-Rufeinig’ cynnar, Caerllion.
Cafodd rhes flaen storfa garreg fawr â chwrt ei darganfod. Dyma’r adeilad cyntaf o’I fath o gyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig i gael ei ddatgloddio i safonau modern. Mae rhai o’r pethau eithriadol a gafodd eu darganfod yn cynnwys enghraifft brin o benwisg ceffyl wedi’i addurno’n gywrain a sawl set o arfwisg corff wedi’I ddatgymalu.
Bydd y sgwrs gan gyfarwyddwyr y gwaith cloddio yn tynnu sylw at rai o ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol project Maes y Priordy, gan ddisgrifio pryd gafodd adeilad y cwrt ei adeiladu, beth oedd yn cael ei storio ynddo, pryd ddaeth ei ddefnydd i ben, a beth ddigwyddodd iddo yn y blynyddoedd ar ôl diwedd Prydain Rufeinig ar ddechrau’r 5ed ganrif.
Bydd cyflwyniad gan Jeremy Knight, llywydd Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Fynwy, ac yna bydd Dr Peter Guest a’r Athro Andrew Gardner, yn siarad am y gwaith cloddio.
Bydd cyflwyniad am Broject Partneriaeth Porth Caerllion Rufeinig yn dilyn y sesiwn Holi ac Ateb. Mae Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Fynwy a Phartneriaeth Caerllion Rufeinig wedi trefnu’r digwyddiad hwn ar y cyd.
Am fwy o wybodaeth am Project Partneriaeth Porth Caerllion Rufeinig ebostiwch:
Cymuned.Caerllion@amgueddfacymru.ac.uk
Tocynnau:
Monmouthshire Antiquarian Association event tickets from TicketSource.