Skip to main content
Llys a Chastell Tretŵr
Wedi ei gyhoeddi

Disgwylir i brosiect newydd a fydd yn dod â’r ysgubor ganoloesol gofrestredig a rhestredig Gradd II* yn Llys a Chastell Tretŵr yn ôl i ddefnydd bob dydd, ddechrau ym mis Rhagfyr 2020. Bydd y prosiect yn cynnig profiad newydd yr 21ain ganrif i ymwelwyr mewn plasty canoloesol sy’n adnabyddus am ei letygarwch.

Llys a Chastell Tretŵr / Tretower Court and Castle

Gyda disgwyl i’r prosiect gael ei gwblhau yn hydref 2021, bydd yr ysgubor yn cael ei gwarchod a’i hadfer yn helaeth wrth ei throi’n ganolfan ymwelwyr newydd, a fydd yn cynnwys siop anrhegion, gofod dehongli a chaffi ar y llawr cyntaf. Bydd y cynnyrch gorffenedig yn adeilad y gall pawb ei fwynhau ac yn cynnwys mannau parcio a stondinau beicio hygyrch, ac mae lifft newydd, lloriau wedi’u gwresogi a thoiledau newydd wedi’u cynllunio.

Gan rychwantu 900 mlynedd o hanes, mae Tretŵr (sy’n golygu lle’r tŵr) yn brolio dau ryfeddod pensaernïol am bris un; y castell gyda’i dŵr pedwar llawr mawreddog a adeiladwyd nid yn unig am resymau amddiffyn, ond fel symbol o statws y gellir ei gweld am filltiroedd o gwmpas, a’r llys canoloesol diweddarach, ond nid llai trawiadol, a ddaeth yn symbol o ysblander a dywedir ei fod yn un o ddarganfyddiadau mwyaf boddhaus Cymru.

Mae’r prosiect hefyd yn rhoi cyfle i ddeall y safle’n well ac archwilio sut mae’r ysgubor wedi newid dros amser. Dechreuodd fel adeilad domestig mawr iawn o’r 15fed ganrif a oedd bron ddwywaith yr hyd y mae erbyn hyn ac, o bosibl, yn rhan o’r cwrt allanol. Ar wahân i ddarn adfeiliedig wrth y ffordd, dim ond wal dalcen sydd wedi goroesi, ac sy’n cynnwys ffenestri wedi’u blocio, lle tân a hyd yn oed darn o blastr gwreiddiol a baentiwyd. Mae hyn wedi’i gynnwys yn estyniadau ac ychwanegiadau diweddarach yr 17eg i’r 19fed ganrif sy’n ffurfio’r ysgubor a welwch heddiw gyda lloriau dyrnu sydd wedi’u cadw’n dda a cherrig wedi’u hailddefnyddio o’r Llys a’r Castell.

Mae’r gwaith cadwraeth yn dilyn archwiliad archeolegol helaeth o’r safle a oedd wedi gobeithio dod o hyd i dystiolaeth bellach o’r adeilad canoloesol. Fodd bynnag, ymddengys fod y rhan fwyaf o hyn wedi’i sgubo i ffwrdd pan gafodd ei ailadeiladu fel ysgubor.

Mae’r llys a’r castell yn dal i fod ar agor i ymwelwyr drwy gydol y gwaith a bydd unrhyw weithgareddau arfaethedig sy’n bodloni’r meini prawf iechyd a diogelwch mewn perthynas â Covid-19 yn dal i fynd rhagddynt. Drwy gydol y prosiect, mae Cadw am ymgysylltu â’r gymuned leol, gan sicrhau bod y ganolfan ymwelwyr newydd yn diwallu anghenion Cadw a’r gymuned ehangach. Yn gynharach yn 2020, gwahoddwyd preswylwyr i archwilio’r ysgubor wag er mwyn cael gwell dealltwriaeth o sut y bydd y prosiect yn gwarchod ac yn adfer adeilad hanesyddol pwysig, gan ddod ag ef yn ôl i ddefnydd bob dydd.

Darperir ar gyfer ein preswylwyr presennol, hyd yn oed. Mae mannau cysgu ar gyfer adar, ystlumod a draenogod yn rhan o’n cynlluniau ar gyfer y bywyd gwyllt lleol. A bydd ein goleuadau’n cael eu cadw’n isel i warchod y Warchodfa Awyr Dywyll!

Mae Cadw wedi penodi John Weaver Contractors yn brif gontractwr. Dywedodd Terry Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr John Weaver:

“Rydym yn falch iawn o fod wedi cael y contract i ddod ag adeilad pwysig yn ôl i ddefnydd. Mae ein timau cadwraeth sefydledig yn canolbwyntio ar sicrhau bod tirnodau ac adeiladau treftadaeth presennol fel Llys a Chastell Tretŵr yn cael bywyd newydd.

"Mae ein crefftwyr a’n gweithwyr mewnol medrus a gwybodus yn deall nid yn unig y manylion technegol gorau o ran gwarchod adeiladau, ond hefyd galon ac enaid y strwythurau sydd yn ein gofal dros dro. Byddwn yn gwarchod yr ysgubor ganoloesol gofrestredig hon i’r safonau uchaf posibl gan ddefnyddio ein profiad helaeth o weithio ar adeiladau hanesyddol arwyddocaol.”

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae hwn yn brosiect cyffrous sy’n nodi pennod newydd ar gyfer Llys a Chastell Tretŵr a’r ymwelwyr niferus sy’n teithio o bell ac agos i werthfawrogi gwychder y safle a’i hanes diddorol.

“Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi yn ein safleoedd i wella profiad ymwelwyr ymhellach, ac mae dod ag ysgubor ganoloesol yn ôl yn ffordd wych o wneud hyn.”

Mae Cadw wrthi’n archwilio opsiynau ar gyfer gweithredu caffi a byddai’n croesawu trafodaethau gyda’r gymuned. Cysylltwch â cadwcommercial@gov.cymru am ragor o wybodaeth.