Gwahoddir teuluoedd ledled Cymru i ddathlu tymor yr ŵyl wrth i Cadw ddatgelu rhaglen hudolus o ddigwyddiadau Nadoligaidd mewn cestyll, abatai a henebion gydol mis Rhagfyr.
Gall ymwelwyr brofi rhyfeddod treftadaeth Cymru gyda gweithgareddau hudolus sydd wedi'u cynllunio i ddod â hanes yn fyw a rhannu hwyl yr ŵyl.
O lwybrau Nadoligaidd i grefftau traddodiadol, o grotos Nadolig i adrodd straeon mewn lleoliadau llawn naws – mae henebion mwyaf eiconig Cymru ar eu gorau ar yr adeg hyfryd hon o'r flwyddyn.
Meddai Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:
"Mae ein digwyddiadau ym mis Rhagfyr yn cynnig ffordd unigryw o fwynhau lleoliadau hanesyddol Cymru yn ystod tymor yr ŵyl. O weithgareddau sy'n addas i deuluoedd i brofiadau ymgolli, rydyn ni’n gobeithio ysbrydoli balchder yn nhreftadaeth Cymru gan greu atgofion hudolus.
Mae mynediad am ddim i blant gydag unrhyw aelodaeth oedolyn, sy’n ffordd wych o ddiddanu'r teulu cyfan gydol y gwyliau. Mae aelodaeth Cadw hefyd yn anrheg Nadolig wych i bobl sy'n hoffi hanes, gan gynnig mynediad diderfyn i 132 o leoliadau hanesyddol gydol y flwyddyn."
Dyma rai o bigion mis Rhagfyr:
Groto Siôn Corn Fictoraidd (Gwaith Haearn Blaenafon)
Dydd Sadwrn 13, Dydd Sul 14, Dydd Sadwrn 20 a Dydd Sul 21 Rhagfyr 10.30am-3.30pm
Profwch hud y Nadolig Fictoraidd yng Ngwaith Haearn Blaenafon, sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac yn gyforiog o hanes diwydiannol. Dewch i gwrdd â Siôn Corn yn ei groto hudol a chreu atgofion Nadoligaidd gyda'r teulu cyfan. Rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.
Arogleuon Tymhorol: Gweithdy Addurniadau Nadolig Canoloesol (Castell Cas-gwent)
Dydd Sadwrn 6 a Dydd Sul 7 Rhagfyr, 10am-3pm
Camwch o fewn furiau cadarn Castell Cas-gwent i ddarganfod sut roedd y Nadolig yn cael ei ddathlu yn yr oesoedd canol. Dysgwch am y perlysiau a'r sbeisys persawrus a deithiodd i’n gwlad o wledydd pell, gyda chyfle i greu eich addurn persawrus eich hun i fynd adre gyda chi.
Kalendae Guys (Baddondy Rhufeinig Caerllion)
Bob dydd rhwng dydd Sadwrn 20 Rhagfyr a dydd Sadwrn 3 Ionawr (ac eithrio Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan).
10am – 4pm
Dathlwch y Flwyddyn Newydd Rufeinig ym maddondy hanesyddol Caerllion gyda llwybr poblogaidd Kalendae Guys. Archwiliwch yr olion hynafol a dewch o hyd i ffeithiau diddorol am fywyd Rhufeinig, gan fwynhau her deuluol dros y Dolig.
Llwybr Ceirw (Castell Cas-gwent)
Bob dydd rhwng dydd Gwener 19 a dydd Mercher 31 Rhagfyr (ac eithrio Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig a Dydd San Steffan).
10am-3pm
Mae ceirw Siôn Corn wedi bod yn crwydro o amgylch Castell Cas-gwent, gan adael cliwiau direidus ar eu hôl... Dilynwch y llwybr Nadoligaidd trwy'r gaer ysblennydd ar lan yr afon, ond tybed allwch chi ddatrys y dirgelwch tymhorol? Cofiwch wisgo’n gynnes i fwynhau’r helfa.
Saturday 13 and Sunday 14 December, 11am-3pm
Visit Santa in the beautiful surroundings of Tretower Court, a medieval manor with a rich history. Children can meet Father Christmas and receive a gift, while adults enjoy mulled wine and mince pies. Tickets must be booked in advance.
Creu a Chadw – Crefftau Nadolig (Castell Cas-gwent)
Dydd Sadwrn 20 a dydd Sul 21 Rhagfyr, 10am-3pm
Dewch i roi’ch doniau creadigol ar waith mewn lleoliad sy’n llawn naws, Castell Cas-gwent. Mewn gweithdy crefft gallwch wneud eich addurn Nadolig eich hun i fynd adre gyda chi, atgof o ddiwrnod arbennig.
Brawd Thomas y Selerwr (Abaty Tyndyrn)
Dydd Sadwrn 27 a dydd Sul 28 Rhagfyr, 10.30am-3.30pm
Camwch yn ôl mewn amser yn Abaty Tyndyrn a dewch i glywed y Brawd Thomas yn rhannu straeon am fywyd mynachaidd yn ystod tymor yr ŵyl. Dewch i archwilio’r adfeilion gothig syfrdanol a dysgu am ddefodau a thraddodiadau'r mynachod Sistersiaidd.
I'r rhai sy'n awyddus i fanteisio i'r eithaf ar raglen Nadolig Cadw, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i 132 o leoedd hanesyddol ledled Cymru. Mae plant yn cael mynd am ddim gydag unrhyw aelodaeth oedolyn, felly mae’n anrheg berffaith y Dolig hwn i’r rhai sydd wrth eu bodd â hanes.