O 6pm ddydd Gwener 23 Hydref, bydd holl safleoedd Cadw â staff a heb staff ar gau am gyfnod amhenodol
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyfnod atal byr a fydd yn dod i rym am 6pm ddydd Gwener 23 Hydref, bydd holl safleoedd Cadw â staff a heb staff ar gau am gyfnod amhenodol.
Bydd unrhyw un sydd eisoes wedi prynu tocyn i ymweld â safle Cadw yn ystod y cyfnod hwn yn cael cynnig ad-daliad llawn.
Am fwy o wybodaeth ewch i: Cyfnod atal y coronafeirws — cwestiynau cyffredin
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am ymweld â rhai o'n safleoedd mwyaf eiconig trwy ein teithiau rhithwir Drysau Agored Ar-lein!
Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw ffôn symudol neu gyfrifiadur - os oes gennych set pen VR gallwch chi ymgolli'n llwyr mewn antur o'ch dewis.
Dewiswch o blith y pecynnau canlynol i ddarganfod mwy am ein profiadau rhithwir ar thema: