Drysau Agored - Amgueddfa Rhisga
Mae’r amgueddfa ar hen safle Sefydliad Gweithwyr Pyllau Glo Rhisga, adeilad rhestredig Gradd 2 a agorwyd yn 1916.
Ar ôl i’r pwll glo gau yn 1967, cafodd ei ddefnyddio fel y swyddfa fudd-daliadau leol am flynyddoedd. Pam gafodd ei brynu gan yr awdurdod lleol yn 1995 gan ddefnyddio arian Treftadaeth Ewropeaidd, rhoddwyd yr amgueddfa ar y llawr gwaelod.
Caiff yr amgueddfa ei rhedeg gan wirfoddolwyr o’r Oxford House Industrial History Society, heb unrhyw gefnogaeth ariannol.
Bydd nifer o eitemau nad ydyn nhw fel arfer wedi eu harddangos ar gael i’w gweld, gan gynnwys arteffactau, ffotograffau a mapiau, yn ogystal â’r Siop Fferyllydd Edwardaidd o Fae Caerdydd a’r wasg argraffu o 1834 oedd yn Rhisga.
Mae’r amgueddfa ar Grove Road, Rhisga, NP11 6GN.
Mae’r amgueddfa ar lwybrau bysus 151 a 56, gwasanaeth Casnewydd i’r Coed Duon ac mae rhyw 800 llath i’r gogledd o orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr ar linell Caerdydd i Lyn Ebwy. Mae maes parcio cyhoeddus am ddim o fewn 100 llath.
Mae Eglwys y Santes Fair Plwyf Rhisga hefyd yn cymryd rhan yn Drysau Agored, a gellir cerdded i’r leoliad.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 28 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|