Drysau Agored - Eglwys y Santes Fair, Rhisga
Adeiladwyd Eglwys bresennol Plwyf Rhisga yn 1852 mewn arddull diwygiad Gothig. Fodd bynnag, mae’n cymryd lle eglwys gynharach ar yr un safle ac, wrth ddymchwel yr adeilad cynharach, darganfuwyd adfeilion Rhufeinig yn y sylfeini. Er ei bod yn debygol y bu eglwys yno ers y 12fed ganrif, efallai bod gwreiddiau Celtaidd i’r safle.
Mae tri strwythur rhestredig Gradd 2: yr eglwys ei hun, y porth mynediad ac adfeilion croes y fynwent.
Cewch weld cofnodion Bedydd, Priodas a Chladdu’r plwyf.
Bydd lluniaeth ar gael.
Cyfeiriad - St. Mary's Street, Rhisga, NP11 6HB.
Mae’r eglwys ar St. Mary's Street, gyferbyn â safle bws sydd ar lwybr y gwasanaethau 151 a 56 Casnewydd i’r Coed Duon. Mae maes parcio bychan drws nesaf a gellir parcio ar y stryd gerllaw.
Mae Amgueddfa Rhisga hefyd yn cymryd rhan yn Drysau Agored.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Medi 2025 |
10:00 - 16:00
|